DIARY MARKER
Disabled Children Conference 2015:
Promoting and Empowering the Rights of Disabled Children and Young People
Wednesday, 11th November 2015
9.30am - 4pm
Park Inn, Cardiff Centre
|
Children in Wales' Disabled Children Conference will focus on promoting and empowering disabled children and young people within a rights based framework. Participants will have an update on existing and proposed policy and legislation and how it will affect disabled children, young people and their families. Innovative ways of empowering disabled children and young people will also be explored. Workshops will further support discussion on a range of topics relating to policy and practice.
Who should attend?
Professionals working with disabled children, young people and their families and those with a policy lead or interest in disabled children
Confirmed Speakers
Professor Luke Clements from Cardiff University who will speak about the Social Services and Well-being Act and its implication for disabled children
Dawn Pickering Senior Lecturer at Cardiff University and physiotherapist who will speak about Participatory Methods and Digital Story Work within health
Young people from Together4Rights, Young Wales, who will speak about participation and the importance of getting their voices heard by professionals
To be confirmed
Presentation on NSPCC research report "We have the right to be safe' protecting disabled children from abuse"
Presentation on the draft Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill
We hope the event will increase delegates' understanding and give them the opportunity to consider their own policy and practice alongside sharing experiences and best practice.
Further info and booking forms will be available soon
|
If you are interested in future Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
Please Click on Read More for Welsh version
|
NODYN I'R DYDDIADUR
Cynhadledd Plant Anabl 2015:
Hybu a Grymuso Hawliau Plant a Phobl
Ifanc Anabl
|
Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2015 9.30yb - 4yp Park Inn, Canol Caerdydd |
Bydd Cynhadledd Plant Anabl Plant yng Nghymru yn canolbwyntio ar hybu a grymuso plant a phobl ifanc anabl oddi mewn i fframwaith seiliedig ar hawliau. Bydd y cyfranogwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisi a deddfwriaeth cyfredol ac arfaethedig a sut bydd hynny'n effeithio ar blant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd. Edrychir hefyd ar ffyrdd blaengar o rymuso plant a phobl ifanc anabl. Bydd y gweithdai'n gyfle pellach i drafod ystod o bynciau sy'n ymwneud â pholisi ac ymarfer.
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n arwain ym maes polisi neu sydd â diddordeb mewn plant anabl.
Siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau
Yr Athro Luke Clements o Brifysgol Caerdydd, a fydd yn sôn am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a'i goblygiadau i blant anabl.
Dawn Pickering, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a ffisiotherapydd, a fydd yn sôn am Ddulliau Cyfranogol a Gwaith Stori Digidol ym maes iechyd.
Pobl ifanc o Gyda'n Gilydd dros Hawliau / Together 4 Rights (T4R), Cymru Ifanc, a fydd yn sôn am gyfranogiad a phwysigrwydd sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn clywed eu lleisiau.
I'w cadarnhau
Cyflwyniad ar adroddiad ymchwil yr NSPCC 'Mae gennym ni hawl i fod yn ddiogel - amddiffyn plant anabl rhag camdriniaeth'
Cyflwyniad ar y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rydym ni'n gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynyddu dealltwriaeth cynrychiolwyr ac yn rhoi cyfle iddynt ystyried eu polisi a'u hymarfer eu hunain, ochr yn ochr â rhannu profiadau ac arfer gorau.
Bydd rhagor o wybodaeth a ffurflenni cadw lle ar gael yn fuan
|
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio.
**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
|
No comments:
Post a Comment