We would like to invite you to bring a group of young people to visit the National Assembly for Wales.
We have devised a programme which will help young people to understand more about the Assembly and its responsibilities, about the Members and their work and about how young people can bring matters to the attention of the Assembly and its Members.
Visit slots are available on Tuesdays, Wednesdays and Thursdays and begin at 10.00, 11.00 and 13.00. A visit could last between 1 and 2 hours and might consist of:
· A debate in a fully equipped youth debating chamber
· An activity
· A tour of the Senedd
· Tickets for the group to watch part of the Plenary meeting (the meeting of all the Assembly Members) on a Tuesday or a Wednesday afternoon
Local Assembly Members will be invited to meet the group during the visit.
A subsidy of £1 per mile is offered to help with transport costs for those groups based more than 10 miles from Cardiff Bay.
If you would like to book one of these visit slots, which are available on a first come first served basis, please contact our Information Centre on 0300 200 6565.
Please take a look at our website http://www.yourassembly.org/ and encourage the young people that you work with to do so.
Please feel free to circulate this email to all your contacts.
Thank you. We look forward to working with you.
Hoffem eich gwahodd i ddod â grŵp o bobl ifanc i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rydym wedi llunio rhaglen fydd yn helpu pobl ifanc i ddeall mwy am y Cynulliad a'i gyfrifoldebau, am yr Aelodau a'u gwaith ac am sut y gall pobl ifanc ddod â materion i sylw'r Cynulliad a'i Aelodau.
Mae cyfleoedd ymweld ar gael ar ddyddiau Mawrth, Mercher a Iau gan ddechrau am 10.00, 11.00 a 13.00. Gallai ymweliad bara rhwng un a dwy awr a gallai gynnwys:
· dadl yn ein siambr drafod bwrpasol i bobl ifanc
· gweithgaredd
· taith o amgylch y Senedd
· tocynnau i'r grŵp gael gwylio rhan o'r Cyfarfod Llawn (cyfarfod o holl Aelodau'r Cynulliad) ar brynhawniau Mawrth neu Fercher
Bydd Aelodau Cynulliad lleol yn cael eu gwahodd i gwrdd â'r grŵp yn ystod yr ymweliad.
Mae cymhorthdal o £1 y filltir yn cael ei gynnig i helpu gyda chostau cludiant ar gyfer y grwpiau hynny sydd fwy na 10 milltir o Fae Caerdydd.
Os hoffech archebu un o'r cyfleoeodd ymweld hyn, y cyntaf i'r felin gaiff falu ydy hi, a gallwch gysylltwch â'n Canolfan Wybodaeth ar 0300 200 6565.
Edrychwch ar ein gwefan http://www.yourassembly.org/ ac annog y bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw i wneud hynny hefyd.
Mae croeso i chi ddosbarthu’r e-bost hwn gyda’ch cysylltiadau.
Diolch. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â chi.
No comments:
Post a Comment