|
Digwyddiad Jigsô Atal Ymddygiad Bwlio
a
Ymyrraeth a Chefnogaeth
|
15 Hydref 2014, 9.30am - 4pm
Hi Tide, Heol Mackworth, Porthcawl, Morgannwg Ganol
CF36 5BT
Mae'n cael ei gynnal yn union cyn Wythnos Gwrthfwlio (17 - 21 Tachwedd 2014),nid yn unig i helpu gyda'r paratoadau mewn ysgolion a lleoliadau wrth iddynt gynllunio'u gweithgareddau, ond hefyd er mwyn sefydlu cysylltiadau ag ymarferwyr ac arbenigwyr, gan greu ymyriadau cynaliadwy a chefnogaeth arbenigol.
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Athrawon
Gweithwyr Ieuenctid
Cwnselwyr Ysgol
Swyddogion Ysgolion Iach
Arweinyddion Bugeiliol
Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Timau Ymddygiad ac Uwch-reolwyr Llywodraethwyr Ysgol Swyddogion Cydlyniant Cymunedol
Cynrychiolwyr Cyngor Ysgol/Ieuenctid
Lleoliadau Trydydd Sector/Ieuenctid Cymunedol
neu unrhyw un sydd â diddordeb yn agenda gwrthfwlio!
Fformat y dydd
1. Ymateb i Adroddiad Thematig Estyn 2014 - Gweithredu ar Fwlio:
Bydd y sesiwn yn edrych ar ganfyddiadau allweddol adroddiad thematig Estyn ac yn archwilio strategaethau y gellir eu rhoi ar waith i hybu amgylchedd ysgol cadarnhaol er mwyn atal ymddygiad bwlio a chreu ysgol fwy cefnogol a chynhwysol.
2. Diogelu, Bwlio a Seiberfwlio:
Diogelu, bwlio a seiberfwlio - bydd y sesiwn hon yn edrych ar strategaethau a gweithgareddau ataliaeth ar gyfer holl gymuned yr ysgol, gan helpu ysgolion i fod yn rhagweithiol o ran eu mesurau i wrthweithio a lleihau effaith achosion o fwlio, gan gynnwys seiberfwlio.
3. Anabledd a Bwlio mewn Ysgolion
Manylion i dilyn
Marchnadle - Byddwch yn Rhan ohono! Os yw'r gwaith rydych chi'n ei wneud fel rhan o'ch sefydliad neu eich prosiect yn cefnogi'r agenda gwrthfwlio, byddem wrth ein bodd petaech chi'n cymryd rhan yn elfen marchnadle'r digwyddiad hwn. Fel 'Arddangoswr Marchnadle', cewch gyfle i hyrwyddo eich gwasanaeth, eich prosiect neu eich darn o waith ymhlith y rhai sy'n dod i'r digwyddiad. Bydd hyn nid yn unig yn helpu'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i wella eu dulliau gwrthfwlio, ond hefyd yn annog darparwyr gwasanaeth i ymgysylltu er mwyn eu helpu i gyflawni hynny. Ni fydd yn costio mwy i chi fod yn rhan o'r Marchnadle, felly anfonwch e-bost imembership@childreninwales. BONWS! Rydym yn sylweddoli ei bod hi'n anodd gofalu am eich stondin pan hoffech chi gymryd rhan yng ngweithgareddau'r diwrnod, felly rydym yn cynnig pris gostyngol i ail berson o'ch sefydliad neu eich prosiect ddod gyda chi. Y gost ar gyfer yr ail berson fydd £25 i aelodau Plant yng Nghymru a £35 i eraill. Os oes angen i chi wirio'ch rhif aelodaeth, neu os hoffech ddysgu mwy am fanteision ymuno, cysylltwch â'n Cydlynydd Aelodaeth a Marchnata ynmembership@childreninwales. Cost (yn cynnwys cinio) Cynrychiolydd cyntaf: £40 - Aelodau £55 - Eraill Ail gynrychiolydd (os yw'n rhan o'r Marchnadle): £25 - Aelodau £35 - Eraill Cadw Lle Cofrestrwch ar-lein yma. |
DIGWYDDIADAUYN Y DYFODOL |
Agweddau -
Dydd Mercher, 11 Chwefror 2015, ardal Llandudno
Cynyddu ymwybyddiaeth yng nghyswllt y nodweddion a amddiffynnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a themâu ychwanegol sy'n dod i'r amlwg (is-ddiwylliannau amgen, troseddau ffrindiau, seiberfwlio). Rydyn ni'n gobeithio portreadu pwysigrwydd deall ein plant a'n pobl ifanc a'r holl gymhlethdodau a ddaw i leoliadau a rennir yn eu sgîl, ac effaith hynny ar fwlio. Bydd hyn yn rhoi gwell gwybodaeth i ni ynghylch sut orau gallwn ni helpu a chefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael anhawster gyda bwlio.
Ar ben hynny, byddwn yn trafod pwysigrwydd meithrin gwydnwch fel bod gan blant a phobl ifanc sgiliau bywyd hanfodol, i'w helpu i ganfod atebion i broblem a dysgu cyfleu eu teimladau a'u meddyliau.
|
No comments:
Post a Comment