TOWARDS CHILDREN'S
WELL-BEING IN EUROPE:
EXPLAINER ON CHILD POVERTY IN THE EU
Children in Wales, as part of a Task Force through a Eurochild and European Anti-Poverty Network (EAPN) partnership, have contributed to the development of an Explainer on Child Poverty in the EU.
Launched at an event in Dublin on 10-11 April 2013, the Explainer aims to raise public awareness of child poverty in Europe and on the devastating effects it has on lives of children and families, as well as on society as a whole.
The Explainer challenges the myths around child poverty, provides arguments and concrete solutions at EU, national, local and individual levels to help stakeholders mobilize around the implementation of the European Commission Recommendation on Child Poverty. It highlights effective solutions that can help to fight child poverty and promote the well-being of all children and families, particularly in times of austerity and public spending cuts.
Children in Wales believes the Explainer will act as a valuable resource for stakeholders here in Wales and help communicate that, despite the challenging economic environment, more can and should be done to tackle child poverty and enhance children's well-being.
Click HERE to view the Explainer
Mae Plant yng Nghymru, fel rhan o Dasglu trwy bartneriaeth Rhwydwaith Gwrthdlodi Eurochild ac Ewrop (EAPN), wedi cyfrannu at ddatblygu Esboniwr ar Dlodi Plant yn yr UE.
Lansiwyd yr Esboniwr yn Nulyn ar Ebrill 10-11 2013, a'i nod yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o dlodi plant yn Ewrop a'i effeithiau trychinebus ar fywydau plant a theuluoedd, yn ogystal ag ar gymdeithas yn gyffredinol.
Mae'r Esboniwr yn herio'r mythau ynghylch tlodi plant, yn darparu dadleuon ac atebion diriaethol ar lefel UE, genedlaethol, leol ac unigol, er mwyn helpu rhanddeiliaid i fynd ati i weithredu Argymhelliad y Comisiwn Ewropeaidd ar Dlodi Plant. Mae'n amlygu atebion effeithiol a all helpu i frwydro yn erbyn tlodi plant a hybu lles pob plentyn a theulu, yn enwedig mewn cyfnod o dorri 'nôl a lleihau gwariant cyhoeddus.
Ym marn Plant yng Nghymru, bydd yr Esboniwr yn adnoddau gwerthfawr i randdeiliaid yma yng Nghymru, ac yn helpu i gyfleu bod modd gwneud mwy, er gwaethaf yr amgylchedd economaidd heriol, i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella lles plant, ac y dylid gwneud hynny.
Cliciwch YMA i weld yr Esboniwr
No comments:
Post a Comment