Lets Get it Right
Website Update
The website focuses on
children’s rights and among other things, provides both informal and formal
resources for training professionals and for use with children and young
people. The new look website will still
provide a range of resources but now also includes up-to-date features, news
and events.
The e-learning package can also be accessed
from this updated website.
You can also follow us on
Twitter @uncrc_wales
The Welsh Government Contribution to the 5th
UK state party report for the UN Committee on the Rights of the Child
The
Welsh Government will be issuing Wales’ contribution to the UK State Party
Report on progress made in implementing the UNCRC on 20th
November. This gives us the opportunity
to highlight the significant
progress made and draw national and international attention to the direction we have
taken to making the rights of the UNCRC a reality for all children and young
people in Wales.
The report will be available on the Welsh Government website www.wales.gov.uk on 20th November.
United Nations
Convention on the Rights of the Child (UNCRC) e-learning package
This e-learning package will help you to learn more about children and
young people’s rights and can be found at www.bit.ly/e-learningpackage
The training includes
examples of case studies, links to additional information and additional
websites.
Contact us at: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.
gov.uk
Find us at: http://www.uncrcletsgetitright.co.uk/
Follow us on Twitter:
@uncrc_wales
cymraeg:
Mae’r wefan yn canolbwyntio
ar hawliau plant ac mae hefyd yn cynnwys adnoddau anffurfiol a ffurfiol ar
gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes hyfforddiant sy’n addas i’w defnyddio gyda
phlant a phobl ifanc. Bydd y wefan ar ei gwedd newydd yn cynnwys adnoddau
amrywiol o hyd ond bydd hefyd yn cynnwys y newyddion, digwyddiadau a’r
nodweddion diweddaraf.
Gallwch hefyd gael gafael ar y pecyn
e-ddysgu o’r wefan hon.
Beth am ein dilyn ar Twitter
@uncrc_wales
Cyfraniad Llywodraeth Cymru at 5ed
adroddiad parti gwladol y DU ar gyfer Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn
Ar
20 Tachwedd bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfraniad Cymru tuag Adroddiad
Parti Gwladol y DU ar gynnydd y gwaith o weithredu CCUHP. Bydd hyn yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at y
cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud a bydd yn tynnu sylw cenedlaethol a
rhyngwladol at y camau yr ydym wedi’u cymryd er mwyn cyflawni hawliau
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar gyfer holl blant a
phobl ifanc Cymru.
Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru www.cymru.gov.uk ar 20
Tachwedd.
Pecyn e-ddysgu
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
Bydd y pecyn e-ddysgu hwn yn eich helpu i ddysgu rhagor am hawliau
plant a phobl ifanc ac mae ar gael yn www.bit.ly/e-learningpackage
Mae’r hyfforddiant yn
cynnwys enghreifftiau o astudiaethau achos, dolenni at wybodaeth ychwanegol a
gwefannau ychwanegol.
Ymweliadau’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
20 Tachwedd –
Ymweliad ag Ysgol Llanrhidian, Abertawe
21 Tachwedd – Ymweliad i
ddathlu pen-blwydd cyntaf Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot
Wythnos Ieuenctid S4C
Bydd
S4C yn darlledu Wythnos Pobl Ifanc, sy’n dechrau ar 16 Tachwedd, a bydd yn
cynnwys dathliad o ddiwrnod Byd-eang y Plant. Bydd yr wythnos yn cynnwys rhaglenni
sy’n targedu pobl ifanc yn benodol, e.e. rhaglen ddogfen o glipiau wedi ei dargedu at Bobl Ifanc, a
recordiwyd ar yr un diwrnod yn ystod yr haf ledled Cymru.
Mae S4C wedi cynhyrchu dwy
hysbyseb wahanol (fersiynau Cymraeg a Saesneg) a fydd yn cael eu dangos drwy’r
wythnos.
Mae’r amserlen yn cynnwys clipiau sy’n para
30 eiliad yn ystod bron pob egwyl yn y rhaglenni perthnasol. Yn ystod rhaglen
ganolog yr wythnos , ‘Dyma Fi’ (www.dymafi.tv ),
ar ddechrau a diwedd pob egwyl bydd 2 fersiwn o’r hysbysebion, yn Gymraeg a’r
Saesneg am yn ail. Bydd yr hysbysebion yn cael eu dangos o tua 5pm ar 16
Tachwedd drwy gydol yr wythnos i gynulleidfa o 1.4 miliwn o bobl ar
gyfartaledd.
Ein Hawliau – Cymru/Our
Rights – Wales
Mae ap dwyieithog ar gyfer ffonau
symudol sy’n hybu hawliau plant wedi’i lansio yng Nghymru. Mae’r ap ar gael i’w
lawrlwytho ar hyn o bryd o i-tunes neu gallwch ddefnyddio’r cod QR isod. Mae’r
ap yn cynnwys gwybodaeth am 42 erthygl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn ac mae hefyd yn cynnwys manylion am wasanaethau cenedlaethol
a’u lleoliad ar gyfer pobl sy’n chwilio
am wybodaeth neu gymorth.
Gallwch wylio’r clip YouTube
sy’n hybu’r ap yn
Cysylltwch â ni yn: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.
gov.uk
Dewch o hyd i ni yn: http://www.uncrcletsgetitright.co.uk/
Dilynwch ni ar Twitter:
@uncrc_wales
No comments:
Post a Comment