Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant
Cwrs hanner diwrnod - 9.30yb - 12.30yp
Nod y cwrs hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig a chrefyddol wrth ystyried materion amddiffyn plant mewn teuluoedd o geiswyr lloches, ffoaduriaid a theuluoedd mudol. Ochr yn ochr â hyn cynyddir y ddealltwriaeth o risgiau diogelu penodol mewn teuluoedd a chymunedau, a chynyddu'r hyder i ymdrin â materion diogelu gyda theuluoedd.
Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda theuluoedd sy'n ceisio lloches, ffoaduriaid neu deuluoedd mudol. Mae hyn yn cynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, unrhyw un sy'n gweithio mewn asiantaethau statudol, gofal cymdeithasol, iechyd neu addysg, grwpiau cymunedol a sefydliadau'r gymuned ffoaduriaid.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Amddiffyn plant trwy lens diwylliannol
- Materion diwylliannol mewn rhianta mewn teuluoedd ymfudol sy'n cyrraedd Cymru
- FGM, Trais Domestig, Priodas Dan Orfod, Camdriniaeth sy'n gysylltiedig â Chred mewn Dewiniaeth
- Hyrwyddo dulliau rhianta positif
Ynghylch yr Hyfforddwr:
Bu Cheryl Martin yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Plant yn Cymorth i Fenywod Cymru, y corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer cam-drin yn y cartref yng Nghymru, yn arbenigwr arweiniol ar blant a cham-drin yn y cartref yng nghyd-destun polisi Cymru, ac yn arweinydd Cymorth i Fenywod yng Nghymru ar amddiffyn plant. Bu Cheryl hefyd yn gweithio gyda'r Cynulliad i sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae cam-drin yn y cartref yn effeithio arnynt yn derbyn y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt i oresgyn effaith negyddol hynny ar eu bywydau. Mae Cheryl wedi rhoi hyfforddiant ym maes cyfiawnder ieuenctid, ac wedi hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn oedolion priodol, er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnal pan gânt eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu. Mae hi'n gwnsler cymwysedig, a bu'n gweithio gydag asiantaeth camddefnyddio alcohol yn gynnar yn y 1990au. Dilynodd Cheryl hyfforddiant mewn datrys gwrthdaro yn 2000, ac mae wedi gweithio fel cyfryngydd annibynnol ers sawl blwyddyn. Bu'n Ymddiriedolwr ac yn Gadeirydd i ddau elusen yn ystod y 12 mlynedd diwethaf. Bellach mae Cheryl yn gweithio fel Swyddog Datblygu i Plant yng Nghymru ar gyfer prosiect 'Cynnwys Teuluoedd' ddiogelu plant mewn teuluoedd sy'n fudol, yn geiswyr lloches, ac yn ffoaduriaid. Mae Cheryl yn Hyfforddwr Achrededig Lefel 3, ac mae hi wedi darparu hyfforddiant ar gam-drin yn y cartref ac amddiffyn plant i ystod eang o gynulleidfaoedd, yn cynnwys hyfforddiant amlasiantaeth, asiantaethau statudol a gwirfoddol a gweithwyr proffesiynol.
Cost:
Aelodau £55
Heb fod yn aelodau £70
|
No comments:
Post a Comment