Hyfforddiant am ddim ar Hawliau Plant / Exciting opportunity to access free training on Children’s Rights
A joint project funded by Welsh Government and delivered by Children in Wales will offer free ‘Train the Trainers’ events across Wales to support staff from a wide range of agencies to deliver Children’s Rights training sessions to the children, young people’s and families workforce.
Bydd prosiect ar y cyd sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan Plant yng Nghymru yn cynnal digwyddiadau ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ ledled Cymru. Ei bwrpas yw helpu staff mewn amrywiaeth eang o asiantaethau i ddarparu sesiynau hyfforddi ar Hawliau Plant i weithluoedd sy’n gweithio â phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Wales was the first country in the UK to enshrine the United Nations Convention on the Right
of the Child (UNCRC) into domestic law by passing the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure (2011).
Raising awareness of the UNCRC is a key element of the legislation, and this project will
support training professionals to cascade information and knowledge of children’s rights across organisations that work with children and young people on a daily basis.
Whilst we will work with Education, Social Work, Childcare and Youth Work trainers and
lecturers, we are also able to train staff from immigration services (UK Border Agency), media organisations, lawyers and the police.
Embedding rights-based approaches across all services that impact on children and young
people, not just the those traditionally seen as being for children is an essential step in supporting the Measure, and Welsh Ministers duty to ensure due regard is paid to the UNCRC.”
The project can provide over 400 free training places, spread across Wales, and initially runs
until Feb 2015. Further information, including details of venues and how to book a place, will follow in the next few weeks.
In the meantime, if you have any questions, please contact:
Andy Senior, Training Officer, Children in Wales
Tel: 029 20342434
Or email:
|
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn gyfraith ddomestig drwy basio Mesur Hawliau
Plant a Phobl Ifanc (Cymru) (2011).
Plant a Phobl Ifanc (Cymru) (2011).
Mae codi ymwybyddiaeth am yr UNCRC yn elfen holl bwysig o’r ddeddfwriaeth a bydd y prosiect hwn yn helpu hyfforddwyr proffesiynol i raeadru gwybodaeth am hawliau plant i gyrff sy’n gweithio’n feunyddiol â phlant a phobl ifanc.
Gallwn gynnig hyfforddiant i hyfforddwyr a darlithwyr ym maes Addysg, Gwaith Cymdeithasol, gofal plant a Gwaith Ieuenctid ac i staff y gwasanaethau mewnfudo (Asiantaeth Ffiniau’r DU), y cyfryngau, cyfreithwyr a’r heddlu.
Mae sefydlu dulliau o weithio sy’n seiliedig ar hawliau plant ymysg gwasanaethau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, nid dim ond y gwasanaethau hynny sy’n draddodiadol ar gyfer plant, yn hanfodol i gefnogi’r Mesur a sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw dyledus i’r UNCRC.
Gall y prosiect gynnig dros 400 o leoedd am ddim ac maen nhw wedi’u rhannu ar draws Cymru. Yn y lle cyntaf, bydd y prosiect yn rhedeg tan fis Chwefror 2015. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion lleoliadau a sut i archebu lle, yn dilyn yn yr wythnosau nesaf.
Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Andy Senior, Swyddog Hyfforddi, Plant yng Nghymru
Rhif ffôn: 029 20342434
Neu e-bostiwch:
No comments:
Post a Comment