|
If you are interested in future Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
|
Upcoming training
February 2014:
March 2014:
Welsh below:
|
Cydnabod ac Ymateb i Ymddygiadau Bwlio |
Cydnabod ac Ymateb i Ymddygiadau Bwlio
6 Mawrth 2014 - Ffurflen Archebu
Cwrs Undydd
Dengys tystiolaeth ac arfer fod bwlio yn effeithio ar les emosiynol ac iechyd meddyliol plant a phobl ifanc. Mae ymchwil wedi nodi:
Mae lleihau digwyddiadau bwlio yn bendant yn nod cyffredin i blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr fel ei gilydd, ond yn aml gall mynd i'r afael a'r materion a godir gan blant a phobl ifanc fod yn heriol ac, mewn rhai achosion, efallai y teimlwn ein bod yn methu datrys yr anghydfod.
Er mwyn ymdrin a materion mewn perthynas a bwlio, mae'n hanfodol bod gan weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr, sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ddealltwriaeth gyffredin o beth sy'n pennu ymddygiad bwlio, a'u bod yn teimlo'n hyderus wrth gymhwyso dulliau cyson o atal ac ymdrin a bwlio.
Bydd y cwrs undydd hwn yn cynnig trosolwg o fwlio, gan drafod y meysydd canlynol:
Ynghylch yr Hyfforddwr:
Mae Rachel Beddoe wedi gweithio ym maes gwrthfwlio a iechyd a lles emosiynol a meddyliol ers saith mlynedd bellach. Mae hi wedi cefnogi ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymuned i ddatblygu polisi ac ymarfer er mwyn atal ymddygiad bwlio ac ymateb iddo, yn ogystal â datblygu rhaglenni o waith i gefnogi pobl ifanc pryderus. Mae Rachel wedi cyhoeddi adnoddau ar y cyd, ac wedi rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau Rhyngwladol ar ymdrin â bwlio ymhlith merched yn eu harddegau, cynyddu hunan-barch, a meithrin perthnasoedd cadarnhaol. Ar hyn o bryd mae Rachel yn astudio ar gyfer MA mewn addysg, ac mae ei hymchwil a'i hastudiaethau yn canolbwyntio ar ymdrin ag effeithiau tlodi a hybu lles plant.
COST:
Aelodau £115
Heb fod yn aelod £135
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â hannah.sharp@childreninwales.
|
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio.
**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
|
Hyfforddiant i ddod
Chwefror 2014 :
Mawrth 2014:
|
No comments:
Post a Comment