Self Assessment Form - Final April
Ffurflen Hunan Asesu-terfynol Ebrill
If you have any difficulty in accessing or completing these forms please contact PAVO for assistance
Dear Member
Mapio gweithgareddau ac asesu gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg
Bydd dyletswydd gynyddol ar sefydliadau yng
Nghymru, yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i ddarparu rhagor o
wasanaethau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, a bydd yn ofynnol i adrodd ar
sgiliau iaith staff, ac edrych ar allu sefydliadau a mudiadau i ddarparu
gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y sector plant a phobl ifanc yn allweddol
yn hyn o beth, yn enwedig gan fod 40% o rai 3-15 oed ym Mhowys yn siarad
Cymraeg.
Yn sgil penderfyniad yng nghyfarfod diwethaf y
Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc i ofyn i’r aelodau amlinellu’r
gweithgareddau a’r gwasanaethau Cymraeg maent yn eu darparu, amgaeaf Ffurflen
Hunan-asesu a Mapio Gweithgareddau Cyfrwng Cymraeg i’w llenwi.
Diben yr ymarfer hunan-asesu yw cynnig sylfaen
o wybodaeth ar gyfer mynd ati i gyflawni’r safonau fydd yn cael eu gosod gan
Lywodraeth Cymru o dan Fesur y Gymraeg, ac a fydd wedyn yn cael eu monitro
gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Bydd yr ymarfer mapio gweithgareddau yn fodd o
weld pa weithgareddau cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu darparu i blant a phobl
ifanc yn y sir, er mwyn gallu;
-Rhannu arfer da,
-Rhoi gwybod i grwpiau eraill am yr hyn sy’n
digwydd,
-Adnabod bylchau amlwg yn y ddarpariaeth.
Bydd canfyddiadau’r ymarfer hwn hefyd yn bwydo
i mewn i raglen waith Grŵp Cyfeirio’r Gymraeg, sy’n is-bwyllgor i’r
Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc, i weld pa waith sydd ei angen gan aelodau’r
grŵp hwnnw i geisio llenwi’r bylchau, a chefnogi gwaith grwpiau a mudiadau
eraill lle bo angen, er bydd plant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg o fewn y
sir.
Ni ddylai’r ymarfer hunan-asesu a mapio gymryd
mwy na thua chwarter awr, ond mae’n bwysig fod y wybodaeth y byddwch yn ei
rhoi mor gyflawn ag sy’n bosibl.
Dylech lenwi ac anfon y ffurflen at Bedwyr
Fychan yn Uned Gymraeg, Cyngor Sir Powys (bedwyr@powys.gov.uk) erbyn 17 Mai 2013. Byddwn
hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch ychydig cyn hynny.
Wedi i ni dderbyn y wybodaeth, byddwn yn ei
dadansoddi, cyn adrodd yn ôl i Grŵp Cyfeirio’r Gymraeg ac i’r Bartneriaeth
Plant a Phobl Ifanc yn y man.
Diolch yn fawr iawn am eich cydweithrediad.
|
Activity mapping and
assessing ability to provide services in Welsh
There will be an increasing duty on organisations in Wales, under the
Welsh Language (Wales) Measure 2011, to provide more services and activities
through the medium of Welsh, along with a requirement to report on the Welsh
language skills of staff, and the ability to provide services in Welsh.
The children and young people’s sector will be key to this, especially
as 40% of 3-15 year olds in Powys speak Welsh.
Following a decision in the last meeting of the Children and Young
Peoples partnership to ask its members to outline the Welsh medium activities
and services they provide, I enclose a Self Assessment and Welsh Medium
Activity Mapping Form to be completed.
The purpose of the Self Assessment exercise is to establish baseline
information for future work on achieving the standards to be set by the Welsh
Government under the Welsh Language Measure, which will be monitored by the
Welsh Language Commissioner.
The activity mapping exercise will allow us to see what Welsh language
activities are provided for children and young people in the County, in order
to;
-Share good practice,
-Tell other groups about what is being provided,
-Identify any distinct gaps in provision.
The results will contribute to the work programme of the Welsh
Language Reference Group, a sub-committee of the Children and Young People Partnership,
to see what the group will need to do to fill any gaps, and to support the
work of other groups and organisations, for the benefit of children and young
people who speak Welsh in Powys.
The self-assessment and mapping exercise shouldn’t take more than
around 15 minutes, but it is important that the information you provide is as
complete as possible.
The form should be completed and sent to Bedwyr Fychan at the Welsh
Unit, Powys County Council (bedwyr@powys.gov.uk) by 17 May 2013. We will
also send a reminder a few days before the deadline.
After we have received the information, it will be analysed, before we
report back to the Welsh Language Reference Group and the Children and Young
People’s Partnership.
Thank you very much for your co-operation.
|
Yours faithfully
Children & Young People’s
Partnership
No comments:
Post a Comment