Partnership and the new Community Justice Landscape,
Aberystwyth University - 12th June 2013
University of South Wales, Newport - 26th June 2013
Dear Colleague,
Community Justice Cymru would like to invite you to the above FREE conference (offered in both Aberystwyth and Newport) run in partnership with Clinks, Safer Wales, Wales Council for Voluntary Action and Welsh Centre for Crime and Social Justice.
Community Justice Cymru is a third sector network, originally established in 2000, with the aim of enabling organisations which work in the community justice field in Wales to engage with each other, share information, disseminate good practice and shape policy. Community Justice Cymru provides a channel to Welsh Government for the views and concerns of third sector organisations in Wales which work with offenders and/or victims.
This third sector chaired event will reflect the changes that new criminal justice policy brings, at a time that also brings social policy changes and a challenging economic environment, and in the context of the complex mix of devolved and non-devolved services that’s unique to Wales. It includes cross-sector comment on how the new landscape impacts on commissioners, providers, offenders (including young offenders transitioning to adult services) and their families, victims and the wider community. Providers, commissioners, strategic leads and academics are invited to hear the opportunities this new landscape brings and explore solutions to future challenges.
A full programme for the day and information about the workshops is attached.
If you would like to book a place, please complete the attached booking form (2 delegates per agency in the first instance. This is to ensure that as many small organisations as possible are represented. However, once these needs are catered for, further places will be offered out) and email it back to Simon Dowling, by no later than the 29th May 2013, at eventsadmin@wcva.org.uk
#communityjusticeconf
Partneriaeth a Thirwedd newydd Cyfiawnder Cymunedol
Prifysgol Aberystwyth - 12 Mehefin 2013
Prifysgol De Cymru, Casnewydd - 26 Mehefin 2013
Annwyl Gyfaill,
Hoffai Cyfiawnder Cymunedol Cymru eich gwahodd i’r gynhadledd uchod AM DDIM (fe’i cynhelir yn Aberystwyth a Chasnewydd) a gynhelir mewn partneriaeth â Clinks, Cymru Ddiogelach, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chanolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
Rhwydwaith yn y trydydd sector yw Cyfiawnder Cymunedol Cymru a sefydlwyd yn 2000, gyda'r nod o alluogi'r mudiadau hynny sy'n gweithio ym maes cyfiawnder cymunedol yng Nghymru i gydweithio, rhannu gwybodaeth ac arferion da, a dylanwadu ar bolisïau. Mae Cyfiawnder Cymunedol Cymru yn darparu sianel i Lywodraeth Cymru ar gyfer barn a phryderon mudiadau trydydd sector Cymru sy'n gweithio gyda throseddwyr a / neu ddioddefwyr.
Mae’r gynhadledd yn cael ei chadeirio gan y trydydd sector ac fe fydd yn adlewyrchu’r newidiadau y mae’r polisi cyfiawnder troseddol newydd yn eu hachosi, ar adeg pan fo newidiadau yn y polisi cymdeithasol a’r amgylchedd economaidd yn un heriol, ac yng nghyd-destun y cymysgedd cymhleth o wasanaethau sydd wedi’u datganoli a’r rhai sydd heb eu datganoli, sy’n unigryw i Gymru. Mae’n cynnwys cyfraniad gan amrywiol sectorau ar y ffordd y mae’r dirwedd newydd yn effeithio ar gomisiynwyr, darparwyr, troseddwyr (gan gynnwys troseddwyr ifanc yn trosi i wasanaethau oedolion) a’u teuluoedd, dioddefwyr a’r gymuned ehangach. Gwahoddir darparwyr, comisiynwyr, arweinwyr strategol ac academyddion i glywed y cyfleoedd y mae’r dirwedd newydd hon yn eu cyflwyno ac i archwilio atebion i heriau’r dyfodol.
Mae rhaglen lawn y dydd a gwybodaeth am y gweithdai wedi’i hatodi.
I gadw’ch lle, llenwch y ffurflen archebu sydd wedi’i hatodi (2 gyfranogwr i bob asiantaeth i gychwyn. Y rheswm dros hyn yw sicrhau bod cynifer o fudiadau bach â phosib yn cael eu cynrychioli. Serch hynny, unwaith mae hyn wedi’i sicrhau, fe fydd lleoedd pellach yn cael eu cynnig) a’i hanfon drwy e-bost at Simon Dowling, erbyn 29 Mai 2013, ar eventsadmin@wcva.org.uk
#communityjusticeconf
Gaynor Davies
Community Safety Officer / Swyddog Diogelwch Cymunedol
Wales Council for Voluntary Action / Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tel / Ffon: 02920 431753
Mobile / Symudol: 07718 115 670
Helpdesk / Lein Gymorth: 0800 2888 329
No comments:
Post a Comment