In “Building a Brighter Future: Early Years and Childcare Plan” (2013) Welsh Government made a commitment to develop and consult on an Early Years Outcomes Framework.
The development of an outcomes framework will help Welsh Government to understand how great an impact our early years policies and programmes are having on children’s lives. It will help to identify where further improvement is needed and where we need to prioritise in the short, medium and long term.
To date the framework has been developed through the Early Years Partnership Board. We also held stakeholder workshops across Wales to test an earlier version of the framework. All feedback has been taken into account and the updated, proposed framework is now open to public consultation.
In order for the outcomes framework to be a success everyone that works across the early years, childcare and play sector should feel ownership of the proposed outcomes. It should help individuals across the sector to understand the contribution they make to improving these outcomes. To help ensure this we would really welcome your views and encourage you to review the consultation and return a response. It can be found at the following link:
The closing date for responses is 15 January 2015.
Lisa McDougall
Early Years and Childcare Plan Project Manager
Bore da
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad yn “Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant” (2013) i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac ymgynghori arno. Bydd datblygu fframwaith canlyniadau yn help i Lywodraeth Cymru ddeall pa cymaint o effaith y mae ein polisïau a’n rhaglenni blynyddoedd cynnar yn ei chael ar fywyd plant. Bydd yn help i nodi lle mae angen gwelliant pellach a lle mae angen blaenoriaethu ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
Hyd yn hyn, mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu gan Fwrdd Partneriaeth y Blynyddoedd Cynnar. Rydym hefyd wedi cynnal gweithdai i randdeiliaid ledled Cymru i brofi’r fersiwn cynnar o’r fframwaith. Mae’r holl adborth wedi cael ei ystyried, a bellach mae’r fframwaith diweddaraf a gynigir ar gael i ymgynghori’n gyhoeddus arno.
Er mwyn i’r fframwaith fod yn llwyddiant, rhaid i bawb sy’n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar, y sector gofal plant a’r sector chwarae deimlo elfen o berchnogaeth o ran y canlyniadau a gynigir. Dylai helpu unigolion ar draws y sector i ddeall y cyfraniad y maent ynl ei wneud. Er mwyn sicrhau hyn, byddem yn croesawu’ch sylwadau ac yn eich annog i ailedrych ar yr ymgynghoriad ac ymateb. Mae modd gweld yr ymgynghoriad yma:
15 Ionawr 2015 yw’r dyddiad cau ar gyfer anfon ymatebion.
Lisa McDougall
Rheolwr Prosiect y Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Lisa McDougall
Early Years Plan Project Manager / Rheolwr Prosiect Cynllun y Blynyddoedd CynnarEarly Years Team / Tim y Blynyddoedd Cynnar Department for Education and Skills – DfES / Yr Adran Addysg a Sgilliau and / a Communities and Tackling Poverty Department /Yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi
Welsh Government / Llywodraeth Cymru