This is an advert for a Welsh Medium Course "Keeping our Children Safe" Training for the Designated
Person for Child Protection
|
At Sylw: Personau Dynodedig Amddiffyn Plant
Hoffai Plant yng Nghymru dynnu eich sylw at y cwrs hyfforddiant arbenigol hwn i'r rheiny sydd â chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu plant. Dyma'r tro cyntaf i Plant yng Nghymru ddarparu'r cwrs hwn yn uniaith Gymraeg yn arbennig ar gyfer gweithwyr mewn ysgolion ac mewn mudiadau a chyrff amrywiol sydd â chyfrifoldeb am amddiffyn plant.
|
"Cadw Ein Plant Yn Ddiogel" Hyfforddiant i'r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant |
Medi 24ain a 25ain 2014, Caerdydd - Ffurflen Archebu
Cwrs Deuddydd
Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae rôl hanfodol i'r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn. Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn ystyried y canlynol:
Ynghylch yr Hyfforddwr:
Mae Eleri Griffiths wedi gweithio gyda Plant yng Nghymru ers dros 10 mlynedd ac ar hyn o bryd hi yw Swyddog Datblygu ac Hyfforddi Plant yng Nghymru.
Treuliodd Eleri rai blynyddoedd yn gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yng Nghymru ac yn Sri Lanka. Ers bod gyda Plant yng Nghymru mae hi wedi arbennigo yn y maes cefnogaeth i fagu plant (rhianti) ac yn fwy diweddar wedi gweithio yn y maes diogelwch plant ac yn y maes blynyddoedd cynnar.
Bellach mae Eleri yn hyfforddi ymarferwyr o amrywiaeth o wasanaethau, ar ystod eang o faterion, yn cynnwys hawliau plant, ymwybyddiaeth ieithyddol ac amddiffyn plant.
COST:
Aelodau £165
Heb fod yn Aelod £195
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am fwy o wybodaeth cysylltwch â Eleri Griffiths .
|
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio.
**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
|
Hyfforddiant i Ddod:
|
No comments:
Post a Comment