submitting articles for this site

If you wish to have any news relating to services for children and their families published onto this site please forward items to PAVO via email: info@pavo.org.uk. Preferably send attachments in Word or publisher rather than pdf format.

If you wish to have further information about anything appearing here please do contact PAVO via the HelpDesk email: info@pavo.org.uk or phone: 0845 009 3288

If any of the links to documents, surveys or other websites don't work please do let us know and we will try again.

See our Sister Blog: PAVO Powys Play Partnership -http://powysplaypartnership.blogspot.co.uk/


Wednesday 6 August 2014

Cadw Ein Plant Yn Ddiogel" Hyfforddiant i'r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant / Welsh Medium Course "Keeping our Children Safe"





This is an advert for a Welsh Medium Course "Keeping our Children Safe" Training for the Designated 
Person for Child Protection

At Sylw:  Personau Dynodedig Amddiffyn Plant 
Hoffai Plant yng Nghymru dynnu eich sylw at y cwrs hyfforddiant arbenigol hwn i'r rheiny sydd â chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu plant.  Dyma'r tro cyntaf i Plant yng Nghymru ddarparu'r cwrs hwn yn uniaith Gymraeg yn arbennig ar gyfer gweithwyr mewn ysgolion ac mewn mudiadau a chyrff amrywiol sydd â chyfrifoldeb am amddiffyn plant.  
"Cadw Ein Plant Yn Ddiogel" Hyfforddiant i'r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant   
Young Minds Training 
Cwrs Deuddydd   
  
Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae rôl hanfodol i'r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn. Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn ystyried y canlynol:

  • Rôl y Person Dynodedig a sut gellir ymgorffori'r rôl honno yn eich sefydliad
  • Deddfwriaeth a chanllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig
  • Mesurau diogelu hanfodol y mae angen eu rhoi ar waith
  • 'Camddefnyddio ymddiriedaeth' a sut mae parhau'n effro i droseddau rhywiol posibl o fewn y sefydliad
  • Asesu pryderon am blentyn, a chyfeirio'r achos at y gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen
  • Y system amddiffyn plant statudol a'r hyn y gellir ei ddisgwyl gennych
  • Cyfrinachedd a chadw cofnodion da
  • Amrywiaeth a nodweddion ychwanegol sy'n gwneud rhai plant yn arbennig o agored i niwed. 

Ynghylch yr Hyfforddwr:
 
Mae Eleri Griffiths wedi gweithio gyda Plant yng Nghymru ers dros 10 mlynedd ac ar hyn o bryd hi yw Swyddog Datblygu ac Hyfforddi Plant yng Nghymru.
Treuliodd Eleri rai blynyddoedd yn gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yng Nghymru ac yn Sri Lanka.  Ers bod gyda Plant yng Nghymru mae hi wedi arbennigo yn y maes cefnogaeth i fagu plant (rhianti) ac yn fwy diweddar wedi gweithio yn y maes diogelwch plant ac yn y maes blynyddoedd cynnar.  
  
Bellach mae Eleri yn hyfforddi ymarferwyr o amrywiaeth o wasanaethau, ar ystod eang o faterion, yn cynnwys hawliau plant, ymwybyddiaeth ieithyddol ac amddiffyn plant.
 
COST:
Aelodau £165
Heb fod yn Aelod £195

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am fwy o wybodaeth cysylltwch â Eleri Griffiths .  

Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio.

**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
Hyfforddiant i Ddod:

No comments: