submitting articles for this site

If you wish to have any news relating to services for children and their families published onto this site please forward items to PAVO via email: info@pavo.org.uk. Preferably send attachments in Word or publisher rather than pdf format.

If you wish to have further information about anything appearing here please do contact PAVO via the HelpDesk email: info@pavo.org.uk or phone: 0845 009 3288

If any of the links to documents, surveys or other websites don't work please do let us know and we will try again.

See our Sister Blog: PAVO Powys Play Partnership -http://powysplaypartnership.blogspot.co.uk/


Monday, 30 July 2018

Dewis and Info Engine sharing is live



Dolen rhannu gwybodaeth nawr yn FYW!

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod datblygiadau technegol sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth ynglŷn â sefydliadau a gwasanaethau trydydd sector perthnasol rhwng Infoengine a Dewis Cymru yn awr yn weithredol.
Cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau'r trydydd sector yng Nghymru yw Infoengine. Fe'i darperir a chefnogir gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae ganddo dros 4,000 o wasanaethau a gynigir gan sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Mae'r nifer hwn yn cynyddu bob dydd.
Gwefan yw Dewis Cymru sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â llesiant yng Nghymru. Darparir y wefan gan Data Cymru ar ran y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyfeiriadur o dros 6,000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol gan gynnwys gwasanaethau llywodraeth leol, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a busnesau. Mae Infoengine yn ychwanegu cyfeiriadur cynhwysfawr o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau trydydd sector sy’n ei wneud yn ffynhonnell unigryw o wybodaeth i’w ddefnyddio ar draws Cymru. Mae hefyd yn cynnwys set o dudalennau gwybodaeth sy’n helpu pobl i feddwl am ‘beth sy’n bwysig’ iddynt, a’u galluogi i ddod o hyd i gymorth ymarferol lleol.
Mae’r datblygiad yma yn enghraifft arbennig o gyd-weithio rhwng y trydydd sector a’r sector gyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd ac i’r rheini sy’n paratoi gwasanaethau cyngor a chefnogaeth iddynt ar draws Cymru. Yn ymarferol, bydd gwybodaeth ar gael ar y ddau wefan gwaeth pa bynnag un mae’r wybodaeth yn cael ei ychwanegu arno.

Information sharing link now LIVE!

We are delighted to announce that technical developments allowing information about relevant third sector organisations and services to be shared between infoengine and Dewis Cymru are now operational.
Infoengine is an online directory of third sector services in Wales. It is provided and supported by Third Sector Support Wales, a partnership of County Voluntary Councils and the Wales Council for Voluntary Action. It has over 4,000 services offered by voluntary organisations and community groups. This number increases daily.
Dewis Cymru is a website providing information about well-being in Wales. The website is developed by Data Cymru on behalf of the 22 local authorities in Wales. It contains a resource directory of over 6,000 local and national organisations and services including local authority services, community groups, voluntary organisations and businesses. Infoengine adds to this a comprehensive set of information about third sector services making it a unique source of information for use across Wales. It also includes a set of Information Pages designed to help people think about ‘what matters’ to them, and helps them find local, practical support.
This development is a real example of practical collaboration between the third sector and the public sector in Wales and ensures that information is readily available to both the public and to those who offer advice and support to the public across Wales. In practical terms, information about such services is now visible on both sites regardless of where the information is added.

No comments: