Calling all budding journalists
Keep Wales Tidy is thrilled to bring Young Reporters for the Environment (YRE) to Wales.
Keep Wales Tidy is the national operator for the YRE Litter Less Campaign and can’t wait to hear from schools, colleges and youth organisations in Wales who are ready for a journalistic challenge. Each entry will produce a piece of investigative journalism about a local litter issue such as marine litter and share the results with their community and an international ‘sister’ organisation.
Joanna Friedli YRE Co-ordinator for Wales says;
“This is a really exciting opportunity for students aged between 11-21 to get involved and raise awareness of the effect of litter and waste on the local environment whilst increasing their knowledge and practical skills in preventing and managing litter and waste. I’m looking forward to seeing original solutions to local litter issues and some innovative ways of reporting using digital skills to produce film and photography as well as written articles.”
Organisations should express interest with Keep Wales Tidy by 21 Nov yre@keepwalestidy.cymru and be ready to submit their entry in March 2018.
Lesley Jones, Chief Executive of Keep Wales Tidy, says;
“Young Reporters for the Environment celebrates talented young people who express a passion for protecting our planet. We’re looking forward to involving them in our work to tackle litter issues, particularly in raising awareness of the devastating impact that marine litter has around the world.”
The YRE Litter Less Campaign aims to engage and educate children and young people on the issue of litter and encourage them to make positive choices. It is an international competition and Welsh national winners from within three categories and age groups will be considered for an international competition.
The Litter Less Campaign is a joint initiative between the Wrigley Company Foundation and FEE. It aims to reduce litter and affect long term behaviour change among youth around the world.
NOTES TO EDITORS
- For more information please visit https://www.keepwalestidy.cymr
u/yre or contact nia.lloyd@keepwalestidy.cymru
- Keep Wales Tidy is a registered charity working across Wales to protect our environment for now and for the future. Our website is at https://www.keepwalestidy.cymr
u
Yn galw ar Newyddiadurwyr Brwd
Mae’n bleser gan Cadwch Gymru’n Daclus gyflwyno Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd (YRE) i Gymru.
Cadwch Gymru’n Daclus yw gweithredwr cenedlaethol Ymgyrch ‘Litter Less’ YRE ac maent yn awyddus iawn i glywed gan ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid yng Nghymru sy’n barod am her newyddiadurol. Bydd pob ymgais yn cynhyrchu darn o newyddiaduriaeth ymchwiliol ynglŷn â phroblem sbwriel leol ac yna’n rhannu’r canlyniadau gyda’u cymuned a ‘chwaer’ sefydliad rhyngwladol.
Dywedodd Joanna Friedli, Cydlynydd YRE yng Nghymru “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i fyfyrwyr rhwng 11 a 21 oed gyfranogi a chodi ymwybyddiaeth o effaith sbwriel a gwastraff ar yr amgylchedd lleol a chynyddu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol eu hunain o ran atal a rheoli sbwriel a gwastraff. Rwy’n edrych ymlaen at weld atebion gwreiddiol i broblemau sbwriel lleol a rhai ffyrdd dyfeisgar o gyflwyno adroddiadau, gan ddefnyddio sgiliau digidol i gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth, yn ogystal ag erthyglau ysgrifenedig.”
Dylai sefydliadau fynegi diddordeb i Cadwch Gymru’n Daclus erbyn 21 Tachwedd yre@keepwalestidy.cymru a bod yn barod i gyflwyno eu cyflwyniadau erbyn Mawrth 2018.
Mae ymgyrch ‘Litter Less’ YRE yn ceisio ymgysylltu ac addysgu plant a phobl ifanc am y broblem o sbwriel a’u hannog i wneud dewisiadau cadarnhaol. Mae hon yn gystadleuaeth ryngwladol a bydd enillwyr cenedlaethol o 3 chategori a grŵp oedran yng Nghymru yn cael eu hystyried ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol.
Mae’r Ymgyrch ‘Litter Less’ yn fenter ar y cyd rhwng Sefydliad Cwmni Wrigley a’r Sefydliad dros Addysg Amgylcheddol. Ei nod yw lleihau sbwriel ac ysgogi newid hirdymor i agwedd pobl ifanc o amgylch y byd.
NODIADAU I OLYGYDDION
- Am wybodaeth bellach ewch i https://www.keepwalestidy.cymr
u/yrec neu cysylltwch â nia.lloyd@keepwalestidy.cymru
- Mae Cadwch Gymru’n daclus yn elusen gofrestredig sy’n gweithio ledled Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol. Mae ein gwefan yn https://www.keepwalestidy.cymr
u/cy
No comments:
Post a Comment