URDD GOBAITH Cymru
Cynllun Prentisiaeth Gwersyll Llangrannog
Cyfle gwych i ymuno ag
Adran Weithgareddau Gwersyll Llangrannog, i dderbyn hyfforddiant a phrofiadau
mewn amryw o weithgareddau'r Gwersyll
Mae Gwersyll Llangrannog
yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a derbyn hyfforddiant tuag at
ennill cymwysterau cydnabyddedig yn y maes hamdden ac awyr agored.
Gall y gweithgareddau yma gynnwys sgïo, byrddio eira,
dringo, rhaffau uchel, saethyddiaeth, merlota, beiciau modur, nofio, chwaraeon
aml gamp a chymorth cyntaf.
Mae’r cynllun dros gyfnod penodol o 12 mis gan gychwyn ym
mis Medi 2016.
Telir cydnabyddiaeth fisol ynghyd â darparu llety rhad ac
am ddim.
Am sgwrs anffurfiol a
manylion pellach cysylltwch ag Iestyn Evans ar
01239 652140 neu Iestyn@urdd.org
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 15 Orffennaf 2016
Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad Swydd
Teitl y swydd:
|
Prentis Gweithgareddau Gwersyll
Llangrannog
|
Yn atebol i:
|
Rheolwr Gofal
Cwsmer a thrwyddo ef i’r Cyfarwyddwr.
|
Cyflog:
Hyd y cytundeb:
|
Bydd pecyn ariannol o £500 y mis yn cael ei gynnig bydd
yn cynnwys lwfans byw yn ogystal â threfniadau hyfforddiant, llety a
chynhaliaeth
Bydd y cyfnod hyfforddiant yn para am flwyddyn gan
gychwyn ar Fedi 1af 2016 tan 31ain Awst 2017.
|
Oriau gwaith:
|
·
35 awr yr wythnos
·
Golyga dyletswyddau’r swydd hon y bydd rhaid
gweithio bob yn ail benwythnos ac ar Wyliau’r Banc. Bydd hawl i 2 ddiwrnod i ffwrdd yn ystod yr
wythnos ar ôl gweithio penwythnos a 2 ddiwrnod “in lieu” am weithio Gŵyl y
Banc.
·
Oriau gwaith arferol: 9a.m.-5p.m.
·
Bydd un shifft 2p.m.-10p.m. pob tua 6 wythnos.
Bydd rhaid gweithio tu allan i’r oriau hyn o bryd i’w
gilydd
|
Lleoliad:
|
Gwersyll yr Urdd, Llangrannog
|
Gwyliau blynyddol:
|
Caniateir 25 niwrnod o wyliau blynyddol ac wyth niwrnod
wyliau cyhoeddus - y cyfnodau i'w pennu mewn ymgynghoriad ar Reolwr Cwsmer
|
Cyfnod prawf:
|
Bydd cyfnod prawf o 3 mis.
|
Gwiriad DBS:
|
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei
wirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS)
|
Archwiliad meddygol:
|
Cedwir yr hawl i ofyn i'r sawl
a benodir mynd o dan archwiliad meddygol cyn cynnig y swydd yn ffurfiol.
|
Dyletswyddau, Gofynion a Hyfforddiant
1. Disgwylir i
ymgeiswyr llwyddiannus gymryd rhan yn yr holl hyfforddiant a gynigir. Anelir at
dystysgrifau cenedlaethol:
·
Tystysgrif NVQ Lefel 2
mewn Arwain Gweithgareddau (QCF)
·
Cwrs Arweinwyr
Chwaraeon Lefel 2
·
Cwrs Diogelwch Plant
·
Cwrs Cymorth Cyntaf
·
Cwrs
Achub Bywyd Pwll Nofio
·
Cwrs
Arweinydd Saethyddiaeth
·
Cwrs
Hyfforddi Sgïo / Byrddio Eira
·
Cwrs
Arweinydd Beiciau Modur
·
Cyrsiau
Iechyd a Diogelwch
2. Er mwyn ennill
y tystysgrifau disgwylir i’r ymgeiswyr ymarfer y tu allan i oriau arferol y
cynllun. Yn ogystal â’r hyfforddiant uchod rhoddir hyfforddiant mewnol ar holl
weithgareddau amrywiol y gwersyll gan gynnwys y wal ddringo, cwrs rhaffau
uchel, adeiladu tîm, datrys problemau cyfeiriannu, trampolîn, merlota, ceirt
modur, gwibgartio a gweithgareddau nos.
3. Disgwylir i’r prentisiaid
ymgymryd â’r rota staff y Gwersyll sy’n golygu bod ar ddyletswydd ar
benwythnosau ac oriau hwyr ac anghymdeithasol. Fe roddir amser ychwanegol i
ffwrdd am hyn.
4. Mae llawer o
ddyletswyddau cyffredinol y Gwersyll yn
disg yn i ran aelodau’r Adran
Weithgareddau. Bydd y rhain yn cynnwys glanhau a chynnal a chadw gwahanol
ardaloedd ac offer o fewn y Gwersyll, llenwi peiriannau bwyd a diod, a rhoi
cymorth i adrannau eraill y Gwersyll yn ôl y galw.
5. Oherwydd natur
y Gwersyll, fe fydd rhaid i’r ymgeiswyr ymateb i alwadau a gofynion amrywiol o
dro i dro.
6. Disgwylir i’r
ymgeiswyr llwyddiannus fod yn 18 oed, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda
diddordeb mewn plant a phobl ifanc, ac yn meddu ar bersonoliaeth radlon a
brwdfrydig.
Os am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Iestyn Evans, Rheolwr Gofal Cwsmer,
Gwersyll Llangrannog ar 01239 652140
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, Dydd Gwener 15 Orffennaf 2016
Dylai ffurflenni cais wedi eu
cwblhau cael eu dychwelyd at:
Preifat a Chyfrinachol
Iestyn Evans
Gwersyll yr Urdd
Llangrannog
Llandysul
Ceredigion
SA44 6AE
neu e-bostiwch Iestyn@urdd.org
No comments:
Post a Comment