"Keeping Our Children Safe"
Training for Designated Person for Child Protection
|
"Keeping Our Children Safe" Training for Designated Person for Child Protection
19 & 20 April 2016, Cardiff
A two-day course
All children have the right to live lives free from abuse and neglect but recent events highlight, yet again, how difficult it can be for so many adults to recognise, and act on concerns about the safety or welfare of a child. The UN Convention on the Rights of the Child states that all organisations concerned with children should work towards what's best for each child. The Designated Person for Child Protection has a vital role within organisations helping to ensure that adequate safeguards are in place and that necessary action is taken when concerns about a child are raised.
This two day training course will consider:
- The role of the Designated Person and how this can be incorporated into your organisation
- Legislation and guidance on safeguarding children and young people, particularly within the Welsh context
- Essential safeguarding measures that need to be in place
- The 'abuse of trust' and how to remain alert to potential sexual offences within the organisation
- Assessing concerns about a child and making a referral to social services if necessary
- The statutory child protection system and what may be expected of you
- Confidentiality and good record keeping
- Diversity and the additional vulnerabilities for some children
About the Trainer
Claire Sharp has worked with children and young people, in the voluntary and statutory sector, for over twenty years and currently works as Children in Wales' Training Officer. Claire spent many years working in the field of domestic abuse, directly supporting children and young people in refuges and in the community, before moving on to manage Children's Services at Welsh Women's Aid. She has an ongoing interest in encouraging education and learning, in its broadest sense, having worked both as a primary teacher and in the supervision and assessment of student social workers in child and family teams.
Claire now trains practitioners from a variety of services, on a wide range of issues, including children's rights and child protection. Claire has also delivered Early Support training, a programme aimed to improve recognition and support for disabled children and their families through a multi-agency approach with the child at the centre. Claire is a volunteer with UCAN Productions, a performance and creative arts co-operative for blind and partially sighted children, young people and their friends, supporting the children to have opportunities to play and socialise and develop skills and confidence.
COST:
Members £165
Non members £195
Some of our previous course participants have made the following comments:
"Trainer made everything accessible. Trainer was very approachable and professional. Really thought provoking and I will be suggesting changes to policies and policies and practice on my return to work"
"Excellent course with lots of really useful information. Good to meet others working in different areas"
"The practical activities were really fun :). The relation to real life cases were good"
"I will definitely be using some of the information supplied to pass onto colleagues/staff"
|
If you are interested in future Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
|
You may be interested in our upcoming training courses...
|
March 2016
|
|
|
"Cadw Ein Plant Yn Ddiogel" Hyfforddiant i'r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant |
23 & 24 Mawrth 2016, Rhyl
Cwrs deuddydd
Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu, unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i gynifer o oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae rôl hanfodol i'r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn.
Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn ystyried y canlynol:
- Rôl y Person Dynodedig a sut gellir ymgorffori'r rôl honno yn eich sefydliad
- Deddfwriaeth a chanllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig
- Mesurau diogelu hanfodol y mae angen eu rhoi ar waith
- 'Camddefnyddio ymddiriedaeth' a sut mae parhau'n effro i droseddau rhywiol posibl o fewn y sefydliad
- Asesu pryderon am blentyn, a chyfeirio'r achos at y gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen
- Y system amddiffyn plant statudol a'r hyn y gellir ei ddisgwyl gennych
- Cyfrinachedd a chadw cofnodion da
- Amrywiaeth a nodweddion ychwanegol sy'n gwneud rhai plant yn arbennig o agored i niwed.
Mae Claire Sharp wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn y sectorau gwirfoddol a statudol, ers dros 20 mlynedd, ac ar hyn o bryd hi yw Swyddog Hyfforddi Plant yng Nghymru. Treuliodd Claire flynyddoedd lawer yn gweithio ym maes cam-drin yn y cartref, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol mewn llochesi ac yn y gymuned, cyn symud ymlaen i reoli Gwasanaethau Plant yn Cymorth i Fenywod Cymru. Mae ganddi ddiddordeb parhaus mewn annog addysg a dysgu, yn yr ystyr ehangaf, gan ei bod wedi gweithio fel athrawes gynradd ac wedi goruchwylio ac asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol mewn timau plant a theuluoedd.
Bellach mae Claire yn hyfforddi ymarferwyr o amrywiaeth o wasanaethau, ar ystod eang o faterion, yn cynnwys hawliau plant ac amddiffyn plant.
COST:
Aelodau £165
Heb fod yn Aelod £195
Mae rhai o'n cyfranogwyr cwrs blaenorol wedi gwneud y sylwadau canlynol:
"Fe wnaeth yr hyfforddwr bopeth yn hwylus. Roedd yn hawdd holi'r hyfforddwr ac roedd yn broffesiynol iawn. Roedd digon i gnoi cil arno, a bydda i'n awgrymu newidiadau i bolisi ac ymarfer wrth ddychwelyd i'r gwaith"
"Cwrs rhagorol gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn. Da cwrdd ag eraill sy'n gweithio mewn meysydd gwahanol"
"Roedd y gweithgareddau ymarferol yn llawer o hwyl :). Roedd y cysylltiad ag achosion bywyd go iawn yn dda"
"Byddaf yn siwr o ddefnyddio peth o'r wybodaeth i'w rannu gyda chyfeillion/staff"
|
**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma** |
Efallai bydd diddordeb gennych yn ein cyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill...
Mawrth 2016
|
|
|
|
|
|
No comments:
Post a Comment