Working Positively with Autistic Children in the Early Years
|
Working Positively with Autistic Children in the Early Years
A one-day course
The course will cover:
Non-members £135
This course is also offered as in-house training, please contacthannah.sharp@childreninwales. |
If you are interested in future Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
|
Gweithio'n Gadarnhaol gyda Phlant Awtistig yn y Blynyddoedd Cynnar
12 Mai 2014, Wrecsam - Ffurflen Archebu
23 Mai 2014, Caerdydd - Ffurflen Archebu
Mae Gabrielle Eisele yn hyfforddwr profiadol sy'n gweithio ym maes anabledd ac sydd â diddordeb penodol mewn hybu ymddygiad cadarnhaol a chyfarthrebu cynhwysol gyda phlant sydd â lleferydd geiriol cyfyngedig neu ddim o gwbl. Mae Gabrielle yn hyrwyddwr arbenigol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl ledled Cymru. Mae'i gwaith hi gyda phlant a phobl ifanc wedi rhychwantu mwy na deng mlynedd ar hugain mewn swyddogaethau mor amrywiol â chynghorwr i Gronfa'r Teulu, gweithiwr Portage, Arweinydd Clwb i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, athrawes ysgol uwchradd, tiwtor coleg, gweithiwr plant i Cymorth i Ferched Cymru, a phypedwr. Mae cefndir Gabrielle mewn seicoleg ac addysg, ac mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar ei Gradd Meistr mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig. Mae Gabrielle hefyd yn rhiant i berson ifanc sydd ag awtistiaeth.
Mae rhai o'n cyfranogwyr cwrs blaenorol wedi gwneud y sylwadau canlynol:
"Yn procio'r meddwl, yn ddeallus ac yn ddiddorol iawn"
"Rwy'n methu aros i fynd yn syth yn ôl a chreu basgedi chwarae a phasbortau cyfathrebu!"
"Bydda i'n mynd â llawer o bethau i ffwrdd gyda fi ac yn eu trafod gyda'r staff"
Aelodau £115
Heb fod yn aelod £135
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â hannah.sharp@childreninwales.
|
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio.
**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
|
No comments:
Post a Comment