|
Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant
|
12 Hydref 2016, Caerdydd -
Mae deall gwahaniaethau diwylliannol yn elfen bwysig o waith effeithiol gyda theuluoedd a phlant. Gall ymarferwyr a rheolwyr fod yn amharod i ymdrin â phryderon ynghylch lles plant oherwydd eu bod yn ofni cael eu cyhuddo o fod yn hiliol, yn anoddefgar neu'n rhagfarnllyd. Mae sicrhau cydbwysedd rhwng sensitifrwydd diwylliannol a gwneud dyfarniadau Gorllewinol ynghylch lles plant yn anodd.
Nod y cwrs hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig a chrefyddol wrth ystyried materion diogelu mewn teuluoedd mudol, rhai sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid. Bydd yn cynyddu'r ddealltwriaeth o risgiau diogelu penodol mewn teuluoedd a chymunedau ac yn meithrin hyder wrth ymdrin â materion diogelu gyda theuluoedd.
Mae'r cwrs ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda theuluoedd sy'n ceisio lloches, ffoaduriaid, neu deuluoedd mudol eraill BAME, mewn sefydliadau statudol, gofal cymdeithasol, iechyd neu addysg, grwpiau cymunedol a chymunedau o ffoaduriaid, gan gynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf, IFST ac ati.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:
- Amddiffyn plant trwy lens ddiwylliannol
- Persbectifau diwylliannol ar fagu plant ymhlith teuluoedd o fewnfudwyr sy'n dod i Gymru
- Llurgunio Organau Rhywiol Merched, Trais ar sail 'Anrhydedd', Priodas dan Orfod, Cam-drin sy'n gysylltiedig â Chred mewn Dewiniaeth
- Hybu dulliau rhianta cadarnhaol ymhlith teuluoedd o fewnfudwyr
Ynghylch yr Hyfforddwr
Mae Cheryl Martin wedi gweithio gyda cheiswyr lloches dros nifer o flynyddoedd ac wedi datblygu'r cwrs yma drwy ei phrofiad o weithio gyda theuluoedd a gwarchod plant o fewn y cyd-destun diwylliannol.
Yn y gorffennol bu'n gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Plant gyda Chymorth i Fenywod yng Nghymru, y sefydliad dros gam-drin yn y cartref. Mae hefyd wedi hyfforddi ar osodiad cyfiawnder ieuenctid. Mae Cheryl yn gwnselydd cymwysedig ac yn ymarferydd datrys gwrthdaro yn gweithio fel cyfryngwr annibynnol dros nifer o flynyddoedd. Roedd yn ymddiriedolwr ac yn gadeirydd ar ddwy elusen dros y 12 mlynedd ddiwethaf.
Fel Hyfforddwr Achrededig Lefel 3 mae Cheryl wedi cyflwyno hyfforddiant mewn cam-drin yn y cartref a diogelu plant i gynulleidfa eang, yn cynnwys hyfforddiant aml-asiantaeth, statudol, gwirfoddol a phroffesiynol.
COST
Aelodau £80 Heb fod yn aelodau £100
Mae rhai o'n cyfranogwyr cwrs blaenorol wedi gwneud y sylwadau canlynol:
"Mae wedi bod yn ddiwrnod hynod ddifyr a llawn gwybodaeth - diolch"
"Cwrs diddorol iawn, y gwnes i ei fwynhau'n fawr. Hyfforddwr rhagorol. Diolch"
"Diddorol a defnyddiol iawn. Fe wnes i fwynhau'n arbennig cael gwybodaeth benodol am draddodiadau diwylliannol, e.e. Dewiniaeth, FGM"
"Cwrs da iawn, gydag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i ymgysylltu â'r grwpiau trafod. Wedi'i addysgu'n glir, gyda llu o ffeithiau diddorol. At ei gilydd, sesiwn hyfforddi ragorol, gyda digon i gnoi cil arno"
"Difyr, yn gwneud i chi feddwl, ac yn ddefnyddiol ar gyfer ymarfer"
|
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol,
** Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
|
Cultural Awareness in
Safeguarding Children
|
A one-day course
Understanding cultural differences is an important component in effective working with families and children. Practitioners and managers can be reluctant to address child welfare concerns because they fear being accused of racism, intolerance or prejudice. Getting the balance right between cultural sensitivity and making Westernised judgements on child welfare is difficult.
The aim of this course is to raise awareness of cultural, ethnic and religious identities when considering safeguarding issues within asylum seeking, refugee and migrant families. It will increase the understanding of particular safeguarding risks within families and communities and enhance confidence in addressing safeguarding issues with families.
The course is for anyone working with asylum seeking, refugee or other BAME migrant families, in statutory, social care, health or education, community groups and refugee community organisations, including Flying Start, Families First, Communities First, IFST, etc...
This course will include:
- Child protection through a cultural lens
- Cultural perspectives on parenting in immigrant families arriving in Wales
- Female Genital Mutilation, 'Honour' Violence, Forced Marriage, Abuse Linked to a belief in Witchcraft
- Promoting positive parenting in immigrant families
Cheryl Martin has worked with asylum seekers and refugees over a number of years and developed this course from her experiences of working with families and safeguarding children within a cultural context.
She has previously worked as Children's Services Manager at Welsh Women's Aid, the national umbrella organisation for domestic abuse in Wales and has experience of delivering training in a youth justice setting. Cheryl is a qualified counsellor and conflict resolution practitioner, working as an independent mediator for a number of years. She has been a Trustee and chair of two charities over the past 12 years.
As a Level 3 Accredited Trainer Cheryl has delivered training in different settings to a wide range of audiences, including multi-agency training, statutory and voluntary agencies and professionals.
COST
Members £80 Non members £100
Some of our previous course participants have made the following comments:
"It has been a thoroughly informative and enjoyable day - thank you'"
"Really interesting and enjoyable course. Excellent trainer. Thank you"
"Really interesting and helpful. Particularly enjoyed specific information about cultural traditions e.g. Witchcraft, FGM"
"Very good course, variety of practical activities to engage discussion groups. Clearly taught with a multitude of interesting facts. Overall, an excellent training session with plenty of food for thought'"
"Enjoyable, thought provoking and useful for practice"
|
If you are interested in Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
|
|
|
|
|
|
|
No comments:
Post a Comment