Beyond barriers’ is a project funded for two years through the Welsh Assembly’s Children and Families Organisation Grant is a collaborative piece of work undertaken by Action For Children and Barnardo’s. It aims to promote best practice in commissioning, procurement & collaborative working for children, young people & their families acrossWales.
This survey is the first step in researching the current commissioning, procurement and collaborative working landscape for public sector funders & third sector organisations across Wales. There will be further one to one interviews and workshops in the coming months.
This research will identify existing barriers and gaps in and propose solutions for change.
Please complete this survey if you work within the third sector and have responsibility for, or some experience of, public services’ commissioning. The survey should take no more than 15 minutes to complete and will allow us to reflect a range of viewpoints within our final report. All responses will be treated strictly in confidence and no organisation or individual will be identified in the report without permission.
Thank you for your time.
Prosiect dwy flynedd sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan Gweithredu dros Blant a Barnardo's yw ‘Ar Draws Ffiniau’. Mae’n cael ei ariannu drwy Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cymru. Ei nod yw hybu arfer da wrth gomisiynu, caffael a chydweithio er budd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru.
Yr arolwg hwn yw’r cam cyntaf i ymchwilio'r cyd-destun comisiynu, caffael a chydweithio o safbwynt cyllidwyr y sector cyhoeddus a mudiadau’r trydydd sector ledled Cymru. Bydd gweithdai a chyfweliadau un i un pellach yn cael eu cynnal yn y misoedd nesaf.
Bydd y gwaith ymchwil hwn yn nodi’r rhwystrau a’r bylchau sy’n bodoli ac yn cynnig atebion ar gyfer newid.
A fyddech cystal â chwblhau’r arolwg hwn os ydych chi’n gweithio yn y trydydd sector ac yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau cyhoeddus neu'n meddu ar rywfaint o brofiad o hynny. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau, a bydd yn ein galluogi i ystyried amrywiaeth o safbwyntiau yn ein hadroddiad terfynol. Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd unrhyw unigolyn na mudiad yn cael ei enwi yn yr adroddiad heb ganiatad.
Diolch i chi am eich amser.
M Wms Jones
Meinir Williams Jones
Rheolwraig Gwasanaethau Plant/ Childrens Service Manager
Barnardo's
No comments:
Post a Comment