Invites you to save the date for their All
Wales Conference
Restorative Engagement: A piece of the puzzle
in the bigger picture …
Wednesday, 7th
June, 2017
The
Metropole Hotel & Spa, Temple Street, Llandrindod Wells, LD1 5DY
Tros Gynnal Plant has been commissioned by Welsh Government, over a 3
year period, to promote and support the use of Restorative Approaches as a
method of engagement with seldom heard families. Through the delivery of our Restorative
Engagement Training and Development programme across Wales, RAFEP has supported
over 300 professionals across a broad range of services within the 3rd
sector to enhance their engagement skills and we have delivered restorative sessions
to parents with the aim of helping them deal with conflict more effectively.
Through our programme, professionals
and families are provided with tools to build positive and sustainable
relationships which aims to support resilience and resourcefulness, decrease unnecessary
dependency on services and enable individuals to reach out to services when
really needed.
What will happen at the RAFEP All Wales Conference?
Attendees will be inspired through
a range of Presentations and Workshops that will provide opportunity to explore
our findings and consider the
effectiveness of the use of Restorative Approaches within Family Engagement,
potentially looking at how this approach fits within the
framework of the Social Services and Wellbeing Act (Wales), and
the value of this model in alignment with early intervention drivers in the prevention and mitigation of ACEs.
Lunch will be provided and there will be
plenty of networking opportunities!
(Further details to follow)
Who is the event for?
This All Wales conference is aimed at Professionals from any background including health, social care,
voluntary sector and education as all will benefit from attending. This
conference is of particular relevance to Decision Makers influencing the
direction of family support services at a strategic level, Service
Commissioners, Senior Managers, Training and Development Officers and Managers of practitioners working directly with
families.
If you wish to attend this event please send
expressions of interest to: rafep@trosgynnalplant.org.uk
Please be aware that places are limited
We look forward to seeing you there!
The RAFEP Team J
Prosiect
Ymgysylltu â Theuluoedd drwy Ddulliau Adferol Tros Gynnal Plant
Dyddiad i’r
dyddiadur - Cynhadledd
Cymru Gyfan
Ymgysylltu
Adferol: Un rhan o’r darlun ehangach
…
7fed Mehefin, 2017
Gwesty a Sba’r Metropole, Stryd
y Deml, Llandrindod, LD1 5DY
Comisiynwyd Tros Gynnal Plant gan Lywodraeth
Cymru, dros gyfnod o 3 blynedd, i hybu a chefnogi’r defnydd o Ddulliau Adferol
fel modd o ymgysylltu â theuluoedd nas clywir yn aml. Drwy gyflawni ein rhaglen Hyfforddi a Datblygu
ar Ymgysylltu Adferol ledled Cymru, mae RAFEP wedi cefnogi dros 300 o weithwyr
proffesiynol ar draws ystod eang o wasanaethau yn y trydydd sector i wella eu
sgiliau ymgysylltu ac rydym wedi cynnal sesiynau adferol i rieni gyda’r nod o’u
helpu i ddelio â gwrthdaro yn fwy effeithiol.
Drwy
ein rhaglen, darperir offer i weithwyr proffesiynol a theuluoedd feithrin
cysylltiadau cadarnhaol a chynaliadwy gyda’r nod o gefnogi gwydnwch a dyfeisgarwch,
lleihau dibyniaeth diangen ar wasanaethau a galluogi unigolion i ymestyn allan
at wasanaethau pan fydd gwir eu hangen arnynt.
Beth fydd yn digwydd yng Nghynhadledd Cymru Gyfan
RAFEP?
Caiff
y rhai a fydd yn bresennol eu hysbrydoli drwy amrywiaeth o Gyflwyniadau a
Gweithdai a fydd yn cynnig cyfle i ymchwilio i gasgliadau ac ystyried
effeithiolrwydd defnyddio Dulliau Adferol wrth Ymgysylltu â Theuluoedd, gan edrych o bosibl ar y modd mae’r dull
hwn yn cyd-fynd â fframwaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gwerth y model hwn law yn llaw ag ymyrraeth gynnar o ran atal a lliniaru profiadau niweidiol yn ystod
plentyndod.
Darperir
cinio a bydd digon o gyfleoedd i rwydweithio!
(Rhagor o wybodaeth i ddilyn)
At bwy yr anelir y digwyddiad?
Anelir y gynhadledd Cymru
gyfan hon at weithwyr proffesiynol o unrhyw gefndir yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, y sector gwirfoddol ac addysg gan
y bydd pawb yn manteisio o’i mynychu. Mae’r gynhadledd hon yn arbennig o
berthnasol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar gyfeiriad
gwasanaethau cymorth i deuluoedd ar lefel strategol, Comisiynwyr Gwasanaethau,
Uwch Reolwyr, Swyddogion Hyfforddi a Datblygu a Rheolwyr ymarferwyr sy’n
gweithio’n uniongyrchol â theuluoedd.
Os ydych yn dymuno
mynychu’r digwyddiad hwn mynegwch eich diddordeb drwy gysylltu â: rafep@trosgynnalplant.org.uk
Cofiwch mai nifer
cyfyngedig o leoedd sydd ar gael
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!
Tîm RAFEP J
No comments:
Post a Comment