submitting articles for this site

If you wish to have any news relating to services for children and their families published onto this site please forward items to PAVO via email: info@pavo.org.uk. Preferably send attachments in Word or publisher rather than pdf format.

If you wish to have further information about anything appearing here please do contact PAVO via the HelpDesk email: info@pavo.org.uk or phone: 0845 009 3288

If any of the links to documents, surveys or other websites don't work please do let us know and we will try again.

See our Sister Blog: PAVO Powys Play Partnership -http://powysplaypartnership.blogspot.co.uk/


Thursday 27 August 2015

EQUALITY AND INCLUSION TRAINING / HYFFORDDIANT CYDRADDOLDEB A CHYNHWYSIAD





Equality and Inclusion of Disabled Children
21 October 2015, Rhyl - Online Booking Form
25 November 2015, Cardiff - Online Booking Form

A one-day course

This course is aimed at managers and practitioners working with children in a wide variety of settings, including day nurseries, play schemes and afterschool clubs. It will allow participants to explore and understand the legislative and policy framework that supports the inclusion of disabled children. This interactive training day will help people to reflect on their current provision and to consider practical steps that can ensure their setting is inclusive and accessible to all children who wish to attend.
 
  • Rights based approaches to inclusion of disabled children under the UNCRC
  • Disability as an equalities issue via The Equality Act 2010
  • Exploring the implications of Social Model of disability vs Medical Model of disability
  • Understanding the power of language and terminology in relation to disabled children
  • Discussing and debunking the myths of including disabled children into mainstream activities
  • Working in partnership with parents
  • Overcoming barriers  - understanding and promoting reasonable adjustments
  • Looking at features of inclusive settings 
  • Sharing of suggestions for inclusive games and activities
  • Considering how learning can be applied in daily practice
For more information please click 'Read More'


About the Trainers 
Claire Sharp
Claire Sharp has worked with children and young people in the voluntary and statutory sectors for over twenty years and currently works as Children in Wales' Senior Training Officer. 
Claire spent many years working in the field of domestic abuse, directly supporting children and young people in refuges and in the community, before moving on to manage Children's Services at Welsh Women's Aid. 
She has an ongoing interest in encouraging education and learning in its broadest sense, having worked both as a primary teacher and in the supervision and assessment of student social workers in child and family teams. Claire now trains practitioners from a variety of services on many issues, including children's rights and child protection. Claire has also delivered Early Support training, a programme aimed to improve recognition and support for disabled children and their families through a multi-agency approach with the child at the centre. Claire is a volunteer with UCAN Productions, a performance and creative arts co-operative for blind and partially sighted children, young people and their friends, supporting the children to have opportunities to play and socialise and develop skills and confidence.   
Claire now trains practitioners from a variety of services, on a wide range of issues, including children's rights and child protection.

Catherine Lewis
Cath has worked in social care for over twenty years and currently works for Children in Wales leading the organisation's work on disabled children and young people. Cath coordinates various forums, networks and seminars that bring together professionals from the voluntary and statutory sectors who work with disabled children and young people. She also facilitates seminars on disability related themes, such as autism and play, which include presentations from experts in the field and promotes the sharing of good practice. Cath is the Chair of the Third Sector Additional Needs Alliance (TSANA) which seeks to protect and promote the rights of children with additional needs in Wales. This involves regular meetings with the Welsh Government and Assembly Members to highlight what must occur to ensure children and young people with additional needs can access the support they need to reach their full potential. 
Prior to joining Children in Wales, Cath worked as a social worker for the Family Link scheme in Bridgend and then as a social worker for disabled children in Rhondda Cynon Taff. 

Claire and Cath have devised and delivered previous courses on working with disabled children, including:
  • See Me Hear Me - Promoting the rights of disabled children and young people
  • Including disabled children in leisure provision - which was commissioned by Blaenau Gwent and delivered to all leisure staff in the county over a series of events.
COST:
Members - £80
Non-members - £100

This course is also offered as in-house training, please contact training@childreninwales.org.uk for more information. 

Some of our previous course participants have made the following comments:  

"Trainers made all us all feel very comfortable"
 

"A very thorough enjoyable course, excellent resources, thank you"
  
"Now more attuned to disabled rights, and will have enhanced knowledge in the work environment"
 
"This was a most useful workshop, good group discussion and trainers input"

"I will now be more aware of disabled children's rights and will strive to promote them as fully as possible in my work"

"The handouts, group discussion and activities were very useful" 
If you are interested in future Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.
 
 **Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
You may be interested in our upcoming training courses...
October 2015


November 2015






  CiW Logo with txt
Cydraddoldeb a Chynhwysiad Plant Anabl
 translation
Cydraddoldeb a Chynhwysiad Plant Anabl
21 Hydref 2015, Y Rhyl - Ffurflen Archebu Ar-lein
25 Tachwedd 2015, Caerdydd - Ffurflen Archebu Ar-lein 

Cwrs undydd 

Mae'r cwrs yma wedi'i fwriadu ar gyfer rheolwyr ac ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys meithrinfeydd dydd, cynlluniau chwarae a chlybiau ar ôl ysgol. Bydd yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr archwilio a deall y fframwaith polisi a deddfwriaeth sy'n cynnal cynhwysiad plant anabl. Bydd y diwrnod hyfforddi rhyngweithiol hwn yn helpu pobl i fyfyrio ar eu darpariaeth gyfredol ac ystyried camau ymarferol sy'n gallu sicrhau bod eu lleoliad yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob plentyn sydd am ei fynychu. 
  • Dulliau seiliedig ar hawliau o gynnwys plant anabl o dan CCUHP
  • Anabledd fel mater cydraddoldeb trwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • Archwilio goblygiadau'r Model Cymdeithasol o anabledd o'i gymharu â'r Model Meddygol o anabledd
  • Deall pwer iaith a therminoleg yng nghyswllt plant anabl
  • Trafod a chwalu mythau cynnwys plant anabl mewn gweithgareddau prif ffrwd
  • Gweithio mewn partneriaeth â rhieni
  • Goresgyn rhwystrau - deall a hyrwyddo addasiadau rhesymol
  • Edrych ar nodweddion lleoliadau cynhwysol 
  • Rhannu awgrymiadau ar gyfer gêmau a gweithgareddau cynhwysol
  • Ystyried sut gall y dysgu gael ei gymhwyso i arfer beunyddiol 
Ynghylch yr Hyfforddwyr 
Claire Sharp
Mae Claire Sharp wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers dros ugain mlynedd, ac ar hyn o bryd hi yw Uwch Swyddog Hyfforddiant Plant yng Nghymru. 
Treuliodd Claire flynyddoedd lawer yn gweithio ym maes cam-drin domestig, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol mewn llochesi ac yn y gymuned, cyn symud ymlaen i reoli Gwasanaethau Plant Cymorth i Fenywod Cymru.
Mae ganddi ddiddordeb parhaus mewn annog addysg a dysgu yn yr ystyr ehangaf, gan ei bod wedi gweithio fel athrawes gynradd ac yn goruchwylio ac yn asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol mewn timau plant a theuluoedd. Bellach mae Claire yn hyfforddi ymarferwyr o amrywiaeth o wasanaethau ar lawer o faterion, yn cynnwys hawliau plant ac amddiffyn plant. Mae Claire hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant Cefnogi Cynnar, rhaglen a luniwyd i wella'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth i blant anabl a'u teuluoedd trwy ddull amlasiantaeth sy'n rhoi'r plentyn yn y canol. 
Mae Claire yn gwirfoddoli i UCAN Productions, cydweithfa perfformio a'r celfyddydau creadigol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n ddall neu â golwg rhannol a'u ffrindiau, gan gefnogi'r plant i gael cyfleoedd i chwarae, cymdeithasu, a datblygu sgiliau a hyder.

Catherine Lewis
Mae Cath wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros ugain mlynedd, ac ar hyn o bryd mae hi'n gweithio i Plant yng Nghymru yn arwain gwaith y sefydliad ar blant a phobl ifanc anabl. Mae Cath yn cydlynu amrywiol fforymau, rhwydweithiau a seminarau sy'n dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd o'r sectorau gwirfoddol a statudol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl. Mae hi hefyd yn hwyluso seminarau ar themau cysylltiedig ag anabledd, megis awtistiaeth a chwarae, sy'n cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr yn y maes ac yn hyrwyddo rhannu arfer da. Cath yw Cadeirydd Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector (TSANA), sy'n ceisio diogelu a hyrwyddo hawliau plant ag anghenion ychwanegol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau Cynulliad i amlygu'r hyn sy'n gorfod digwydd i sicrhau bod modd i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol gyrchu'r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i gyflawni hyd eithaf eu potensial. 
Cyn ymuno â Plant yng Nghymru, bu Cath yn weithiwr cymdeithasol i'r cynllun Cyswllt Teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yna'n weithiwr cymdeithasol plant anabl yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae Claire a Cath wedi llunio a chyflwyno cyrsiau blaenorol ar weithio gyda phlant anabl, gan gynnwys:
  • 'See Me Hear Me' - Hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc anabl
  • Cynnwys plant anabl mewn darpariaeth hamdden - a gomisiynwyd gan Flaenau Gwent a'i gyflwyno i holl staff hamdden y sir yn ystod cyfres o ddigwyddiadau.
COST:
Aelodau - £80
Heb fod yn aelod - £100

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk.

Mae rhai o'n cyfranogwyr cwrs blaenorol wedi gwneud y sylwadau canlynol:
  

"Fe wnaeth yr hyfforddwyr i ni i gyd deimlo'n gyfforddus iawn"

"Cwrs trylwyr iawn, ac fe wnes i ei fwynhau. Adnoddau ardderchog, diolch"

"Mae gen i bellach ddealltwriaeth well o hawliau anabledd, a bydd gen i well gwybodaeth yn yr amgylchedd gwaith"

"Roedd hwn yn weithdy defnyddiol iawn, gyda thrafodaethau grwp da a mewnbwn da gan yr hyfforddwyr"

"Bydda i'n fwy ymwybodol o hawliau plant anabl nawr, a bydda i'n ymdrechu i'w hybu gymaint a phosib yn fy ngwaith"

"Roedd y taflenni, y trafodaethau grwp a'r gweithgareddau'n ddefnyddiol iawn"
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio.

**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
 Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill...
Hydref 2015






Tachwedd 2015


















No comments: