submitting articles for this site

If you wish to have any news relating to services for children and their families published onto this site please forward items to PAVO via email: info@pavo.org.uk. Preferably send attachments in Word or publisher rather than pdf format.

If you wish to have further information about anything appearing here please do contact PAVO via the HelpDesk email: info@pavo.org.uk or phone: 0845 009 3288

If any of the links to documents, surveys or other websites don't work please do let us know and we will try again.

See our Sister Blog: PAVO Powys Play Partnership -http://powysplaypartnership.blogspot.co.uk/


Thursday 13 August 2015




Cultural Awareness in Safeguarding Children

  

Cultural Awareness in Safeguarding Children
27 November 2015, Wrexham - Online Booking Form

A one-day course

Understanding cultural differences is an important component in effective working with families and children. Practitioners and managers can be reluctant to address child welfare concerns because they fear being accused of racism, intolerance or prejudice. Getting the balance right between cultural sensitivity and making Westernised judgements on child welfare is difficult.

The aim of this course is to raise awareness of cultural, ethnic and religious identities when considering safeguarding issues within asylum seeking, refugee and migrant families. It will increase the understanding of particular safeguarding risks within families and communities and enhance confidence in addressing safeguarding issues with families.

The course is for anyone working with asylum seeking, refugee or other BAME migrant families, in statutory, social care, health or education, community groups and refugee community organisations, including Flying Start, Families First, Communities First, IFST, etc.

This course will include:
  • Child protection through a cultural lens
  • Cultural perspectives on parenting in immigrant families arriving in Wales
  • Female Genital Mutilation, 'Honour' Violence, Forced Marriage, Abuse Linked to a Belief in Witchcraft
  • Promoting positive parenting in immigrant families 
About the Trainer 

COST:
If you are interested in Children in Wales courses, please visit our website or join our mailing list.

**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in Wales. Join here**
You may be interested in our upcoming training courses...
October 2015







November 2015








Please Click on 'Read More' to view this in Welsh
Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant
 translation
Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant
27 Tachwedd 2015, Wrecsam - Flurflen Archebu Ar-lein 


Mae deall gwahaniaethau diwylliannol yn elfen bwysig o waith effeithiol gyda theuluoedd a phlant. Gall ymarferwyr a rheolwyr fod yn amharod i ymdrin â phryderon ynghylch lles plant oherwydd eu bod yn ofni cael eu cyhuddo o fod yn hiliol, yn anoddefgar neu'n rhagfarnllyd. Mae sicrhau cydbwysedd rhwng sensitifrwydd diwylliannol a gwneud dyfarniadau Gorllewinol ynghylch lles plant yn anodd.

Nod y cwrs hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig a chrefyddol wrth ystyried materion diogelu mewn teuluoedd mudol, rhai sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid. Bydd yn cynyddu'r ddealltwriaeth o risgiau diogelu penodol mewn teuluoedd a chymunedau ac yn meithrin hyder wrth ymdrin â materion diogelu gyda theuluoedd.

Mae'r cwrs ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda theuluoedd sy'n ceisio lloches, ffoaduriaid, neu deuluoedd mudol eraill BAME, mewn sefydliadau statudol, gofal cymdeithasol, iechyd neu addysg, grwpiau cymunedol a chymunedau o ffoaduriaid, gan gynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf, IFST ac ati.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:
  • Amddiffyn plant trwy lens ddiwylliannol
  • Persbectifau diwylliannol ar fagu plant ymhlith teuluoedd o fewnfudwyr sy'n dod i Gymru
  • Llurgunio Organau Rhywiol Merched, Trais ar sail 'Anrhydedd', Priodas dan Orfod, Cam-drin sy'n gysylltiedig â Chred mewn Dewiniaeth
  • Hybu dulliau rhianta cadarnhaol ymhlith teuluoedd o fewnfudwyr
Ynghylch yr Hyfforddwr
Bu Cheryl Martin yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Plant yn Cymorth i Fenywod Cymru, y corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer cam-drin yn y cartref yng Nghymru, yn arbenigwr arweiniol ar blant a cham-drin yn y cartref yng nghyd-destun polisi Cymru, ac yn arweinydd Cymorth i Fenywod yng Nghymru ar amddiffyn plant. 
Bu Cheryl hefyd yn gweithio gyda'r Cynulliad i sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae cam-drin yn y cartref yn effeithio arnynt yn derbyn y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt i oresgyn effaith negyddol hynny ar eu bywydau. 
Mae Cheryl wedi rhoi hyfforddiant ym maes cyfiawnder ieuenctid, ac wedi hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn oedolion priodol, er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnal pan gânt eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu. Mae hi'n gwnsler cymwysedig, a bu'n gweithio gydag asiantaeth camddefnyddio alcohol yn gynnar yn y 1990au. 
Dilynodd Cheryl hyfforddiant mewn datrys gwrthdaro yn 2000, ac mae wedi gweithio fel cyfryngydd annibynnol ers sawl blwyddyn. Bu'n Ymddiriedolwr ac yn Gadeirydd i ddau elusen yn ystod y 12 mlynedd diwethaf. 
Mae Cheryl yn Hyfforddwr Achrededig Lefel 3, ac mae hi wedi darparu hyfforddiant ar gam-drin yn y cartref ac amddiffyn plant i ystod eang o gynulleidfaoedd, yn cynnwys hyfforddiant amlasiantaeth, asiantaethau statudol a gwirfoddol a gweithwyr proffesiynol.

COST: 
Aelodau £80
Heb fod yn aelodau £100

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk.
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, 

**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill ...
Hydref 2015







Tachwedd 2015







No comments: