submitting articles for this site

If you wish to have any news relating to services for children and their families published onto this site please forward items to PAVO via email: info@pavo.org.uk. Preferably send attachments in Word or publisher rather than pdf format.

If you wish to have further information about anything appearing here please do contact PAVO via the HelpDesk email: info@pavo.org.uk or phone: 0845 009 3288

If any of the links to documents, surveys or other websites don't work please do let us know and we will try again.

See our Sister Blog: PAVO Powys Play Partnership -http://powysplaypartnership.blogspot.co.uk/


Monday 10 August 2015

Cynhadledd Genedlaethol ar Droseddau Casineb a Bwlio yn Oes y Cyfryngau Cymdeithasol / National Conference on Hate Crime and Bullying in the Age of Social Media

National Conference on Hate Crime and Bullying in the Age of Social Media

Current Perspectives, Practices and Solutions


Hate Crime Awareness Week 2015

Thursday 15th October 2015

The Orangery, Margam Park, South Wales

10:30am -16:00pm

Keynote speakers include:
Lesley Griffiths AM, Minister for Communities and Tackling Poverty
Nick Pickles, Head of Policy at Twitter UK
Paul Giannasi, UK Government Hate Crime Lead, Ministry of Justice
Claire Lilly, Head of Child Safety Online, NSPCC
Alun Michael, Police and Crime Commissioner for South Wales

Who should Register?

The Welsh Government and the Social Data Science Lab at Cardiff University invite you to attend the National Conference on Hate Crime and Bullying in the Age of Social Media in Hate Crime Awareness week on Thursday October 15th 2015.  The Conference is aimed at practitioners, policy makers and criminal justice agencies.

The Challenges of 21st Century Social Media

Estimates put social media membership at approximately 2.5 billion non-unique users globally.  Social media has fundamentally altered the ways in which members of the public interact.  While social media can be used to foster positive relationships, there is mounting evidence to suggest it is also being used to target hate crimes and bullying against people and communities.  The 2014 All Wales Hate Crime Project evidenced that ethnic minorities and young people continued to face abuse and harassment on a daily basis, and new evidence from the Social Data Science Lab at Cardiff University shows how these crimes are migrating to Social Media. 

The problem is now recognised as a priority by the UK GovernmentThe former UK Justice Secretary Chris Grayling announced plans in 2014 to amend the Criminal Justice and Courts Bill to increase the maximum sentence for online abusive and hateful content from six to twenty-four months.  The Welsh Government continues to implement ‘Tackling Hate Crimes and Incidents: A Framework for Action’ and the fast paced evolution of social media is providing significant challenges for partners and agencies.

Despite this recognition, practitioners can remain in the dark about the nature, prevalence and resources available to tackle cyberhate and bulling on social media.  This conference aims to address this knowledge gap via a series of keynote presentations from high-profile leaders in the field and via hands on workshops. The Conference also aims to draw upon attendee experiences to set out the current barriers and to identify potential solutions to draw together national recommendations.

How to Register

To register your interest in attending please visit the eventbrite page below and complete the on-line registration process:


During the registration process please select the workshops you would like to attend in order of preference. Unfortunately we cannot guarantee your preference, but we will make every effort to do so.

Please note places are limited and we are restricting attendance to two individuals per organisation. The deadline for applications is 11th  September 2015 and we will write out to applicants to confirm your place by 15th September 2015.

Nathan Cook (Welsh Government) and Matthew Williams (Social Data Science Lab, Cardiff University)
Conference Coordinators



On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.


Cynhadledd Genedlaethol ar Droseddau Casineb a Bwlio yn Oes y Cyfryngau Cymdeithasol

Persbectif, Arferion ac Atebion Cyfredol


Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb 2015

Dydd Iau, 15 Hydref 2015

Yr Orendy, Parc Gwledig Margam, De Cymru

10:30am - 16:00pm



Mae’r prif siaradwyr yn cynnwys:
Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Nick Pickles, Pennaeth Polisi Twitter UK
Paul Giannasi, Arweinydd Llywodraeth y DU ar Droseddau Casineb, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Claire Lilly, Pennaeth Diogelwch Plant Ar-lein, NSPCC
Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

Pwy ddylai gofrestru?

Mae Llywodraeth Cymru a Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn eich gwahodd i Gynhadledd Genedlaethol ar Droseddau Casineb a Bwlio yn Oes y Cyfryngau Cymdeithasol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. Cynhelir y gynhadledd dydd Iau 15 Hydref 2015. Trefnir y digwyddiad ar gyfer ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.

Heriau Cyfryngau Cymdeithasol yr 21ain Ganrif

Amcangyfrifir bod oddeutu 2.5 biliwn cyfrif  cyfryngau cymdeithasol mewn defnydd ledled y byd.  Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi creu newid sylfaenol yn y modd y mae’r cyhoedd yn rhyngweithio. Er bod modd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i feithrin perthynas gadarnhaol, mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu y caiff y cyfryngau cymdeithasol hefyd eu defnyddio i dargedu troseddau casineb a bwlio yn erbyn pobl a chymunedau. Roedd tystiolaeth a ddaeth i’r amlwg yn sgil Prosiect Ymchwil Troseddau Casineb Cymru Gyfan 2014 yn dangos bod lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc yn parhau i gael eu cam-drin a’u haflonyddu yn ddyddiol, ac mae tystiolaeth newydd a ddaeth i law drwy’r Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos bod y  troseddau hynny yn cyrraedd y Cyfryngau Cymdeithasol. 

Bellach, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen rhoi blaenoriaeth i’r broblem. Yn 2014, cyhoeddodd Chris Grayling, cyn Ysgrifennydd Cyfiawnder y DU gynlluniau i ddiwygio’r Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd er mwyn cynyddu uchafswm y ddedfryd ar gyfer pobl sy’n rhoi cynnwys sarhaus ac yn arddangos casineb ar- lein, o chwe mis i bedwar mis ar hugain. Mae ‘Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ yn cael ei roi ar waith gan Llywodraeth Cymru o hyd ac mae esblygiad cyflym y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig heriau sylweddol i’r partneriaid a’r asiantaethau.

Er bod hyn oll yn cael ei gydnabod, mae’n bosibl nad yw’r ymarferwyr yn gwybod digon am natur yr achosion casineb a seiberfwlio ar gyfryngau cymdeithasol, pa mor gyffredin ydynt a’r adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â nhw. Bwriad y gynhadledd hon yw rhoi gwybodaeth i bobl am hynny gan wella eu dealltwriaeth. Gwneir hynny drwy gyfres o gyflwyniadau allweddol gan arweinwyr uchel eu proffil yn y maes a thrwy weithdai ymarferol. Mae’r Gynhadledd hefyd yn bwriadu gwneud yn fawr o brofiadau’r bobl sy’n bresennol er mwyn nodi’r rhwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd ac i ddod o hyd i atebion posibl er mwyn casglu ynghyd rhestr o argymhellion cenedlaethol. 

Manylion Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y gynhadledd, ewch i dudalen eventbrite isod a chofrestrwch ar-lein:


Wrth gofrestru, nodwch eich dymuniad ynghylch pa weithdai yr hoffech fod ynddynt, yn ôl blaenoriaeth. Yn anffodus, ni allwn sicrhau eich dewis, ond byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud hynny.
       
Sylwch mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly dim ond lle i ddau unigolyn o bob sefydliad yr ydym yn ei gynnig. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 11 Medi 2015 a byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’ch lle erbyn 15 Medi 2015.

Nathan Cook (Llywodraeth Cymru) a Matthew Williams (Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd)
Cydlynwyr y Gynhadledd



No comments: