submitting articles for this site

If you wish to have any news relating to services for children and their families published onto this site please forward items to PAVO via email: info@pavo.org.uk. Preferably send attachments in Word or publisher rather than pdf format.

If you wish to have further information about anything appearing here please do contact PAVO via the HelpDesk email: info@pavo.org.uk or phone: 0845 009 3288

If any of the links to documents, surveys or other websites don't work please do let us know and we will try again.

See our Sister Blog: PAVO Powys Play Partnership -http://powysplaypartnership.blogspot.co.uk/


Wednesday 18 May 2016

Whizz-Kidz in Wales

Hello everyone
Welcome to our first newsletter of 2016 and we’ve got lots to share with you, we’ve had a busy few months including our first residential camp and promoting the launch of our latest campaign.

Our last newsletter was well received with partners and Ambassadors coming forward with ideas and suggestions for events and activities.  The team is working hard to pull a programme of events together and we hope you, or the young people that you work with, will benefit from it all.

If you want information on any of our services, or want to share your news in our next newsletter please let your local coordinator know:
South Wales – Arron Ring; a.ring@whizz-kidz.org.uk  / 07760 368 424
North Wales – Zarah Ross; z.ross@whizz-kidz.org.uk / 07775 323733
Thanks for your support,
Team Wales
Helo bawb
Croeso i’n cylchlythyr cyntaf yn 2016 ac mae gennym ni lawer i’w rannu â chi; rydyn ni wedi cael ychydig fisoedd prysur gan gynnwys ein gwersyll preswyl cyntaf a hyrwyddo lansiad ein hymgyrch ddiweddaraf.

Cafodd ein cylchlythyr diwethaf groeso gyda phartneriaid a Llysgenhadon yn dod ymlaen â syniadau ac awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.  Mae’r tîm yn gweithio’n galed i dynnu rhaglen o ddigwyddiadau at ei gilydd ac rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi neu’r bobl ifainc rydych chi’n gweithio gyda nhw yn cael budd o hyn i gyd.

Os hoffech chi gael gwybodaeth am unrhyw un o’n gwasanaethau neu yr hoffech rannu eich newyddion yn ein cylchlythyr nesaf, gadewch i’ch cydlynydd lleol wybod:

De Cymru – Arron Ring: a.ring@whizz-kidz.org.uk / 07760 368 424
Gogledd Cymru – Zarah Ross: z.ross@whizz-kidz.org.uk / 07775 323733
Diolch am eich cefnogaeth,
Tîm Cymru
WHIZZ-KIDZ NEWS / NEWYDDION CYMRU
Conference – Keep the Date! 
We are excited to confirm that our inaugural Whizz-Kidz Wales conference will take place on 16th June 2016 in Cardiff and will be opened by the Children’s Commissioner for Wales, Sally Holland. The focus of our conference is ‘Our Skills, Our Friends, Our Futures’ and we will share best practice and discuss supporting young people with disabilities throughout our event. Young people will form part of the audience and the presentation team and we will be presenting Awards to some of our young Ambassadors.
Cynhadledd – Cadwch y Dyddiad!
Rydyn ni’n llawn cyffro wrth gadarnhau y bydd ein cynhadledd cychwynnol Whizz-Kidz Cymru yn digwydd 16eg Mehefin 2016 yng Nghaerdydd a Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru fydd yn ei agor.  Bydd ein cynhadledd yn canolbwyntio ar ‘Ein Medrau, Ein Ffrindiau, Ein Dyfodol’ a byddwn yn rhannu arfer orau ac yn trafod cefnogi pobl ifainc sydd ag anableddau trwy gydol y digwyddiad.  Bydd pobl ifainc yn ffurfio rhan o’r gynulleidfa a’r tîm cyflwyno ac fe fyddwn ni’n cyflwyno Gwobrau i rai o’n Llysgenhadon ifainc.
First Camp Whizz Kidz
In November 2015 we help the first Camp Whizz-Kidz in Wales. Camp Whizz-Kidz is a short residential camp for young wheelchair users aged 18-25 which brings together key parts of Whizz-Kidz training and fun, and is often the first time a young disabled person has spent a prolonged amount of time away from home and their parents. There was full care staff in place including nurses and 24 hour personal care support.

The first camp took place in North Wales and young people from across the area were asked to come along. There was a mix of fun, and informative sessions. These of workshops, who titles included Jiwsi Sex & Relationship Education, Spoken Word, Young Wales – getting your voice heard in the Assembly, a Climbing Wall & craft sessions. Feedback from young people who attended stated that  they felt more independent after they had been away with Whizz-Kidz, they had enjoyed the climbing wall, made new friends, and felt like they were more confident..
Gwersyll Whizz-Kidz Cyntaf
Ym mis Tachwedd 2015 fe gynhalion ni’r Gwersyll Whizz-Kidz cyntaf yng Nghymru.  Mae Gwersyll Whizz-Kidz yn wersyll preswyl byr i ddefnyddwyr cadair olwyn ifanc 18-25 oed sy’n crynhoi at ei gilydd rannau allweddol hyfforddiant Whizz-Kidz a hwyl ac, yn aml, hwn yw’r tro cyntaf mae person ifanc anabl wedi treulio cyfnod estynedig oddi cartref ac oddi wrth eu rhieni.  Roedd staff gofal llawn ar gael gan gynnwys nyrsys a chefnogaeth gofal personol bedair awr ar hugain.
Digwyddodd y gwersyll cyntaf yng Ngogledd Cymru a gofynnwyd i bobl ifainc o un pen o’r ardal i’r llall ddod.  Roedd cymysgedd o hwyl a sesiynau llawn gwybodaeth.  Gweithdai yw’r rhain dan y teitlau Addysg Rhyw a Pherthynas ‘Jiwsi’, y Gair Llafar, Cymru Ifanc – cael lleisio eich barn yn y Cynulliad, Wal Ddringo a sesiynau crefft. 
Gwynedd Whizz-Kidz receives Outstanding Achievement Award
Aaron Plemming has been given an Outstanding Achievement Award by Whizz-Kidz, as part of the charity’s 25th anniversary celebrations. It was presented at his local Ambassador Club on the 12th December 2015. This award was one of 25 was handed out throughout the charity’s 25th birthday year to celebrate the outstanding achievements and support of those involved with Whizz-Kidz.

Aaron first started coming to Whizz-Kidz in 2011. He wanted to meet new people and have new experiences so he joined the Whizz-Kidz local Ambassadors Club in Bangor. Arron has gone on to become a Young Leader for Whizz Kidz, including taking a role in leading activities at his club such as preparing and developing quiz activities for the group, working with the staff to plan, and take the lead in the running of the evening meet ups in the Caernarfon Coffi Club and supporting other young people who are attending.

At the age of 25, Aaron is now looking forward to being a Whizz-Kidz volunteer. He will be supporting new young people, to enable them to participate in the activities Whizz-Kidz has on offer including Wheelchair Skills Training, Camps and Work Placements.

The Whizz-Kidz 25th Anniversary Outstanding Achievement Award is sponsored by Putney-based philanthropist Charlotte Grobien OBE. Charlotte is the Founder of ‘Give it Away’, a company that undertakes property development and donates the profits to charity.  She said, “It is so touching to see disabled young people taking on projects to help each other and Aaron has made a huge difference in his local area not only to himself by joining the Bangor Ambassador Club but by taking on a proactive role in its running’
Gwynedd Whizz-Kidz receives Outstanding Achievement Award
Whizz-Kidz Gwynedd yn cael Gwobr Cyflawniad Eithriadol
Rhoddwyd Gwobr Cyflawniad Eithriadol i Aaron Plemming gan Whizz-Kidz fel rhan o ddathliadau pen-blwydd yr elusen yn 25ain.  Fe’i cyflwynwyd iddo yn ei Glwb Llysgenhadon lleol ar y 12fedRhagfyr 2015.  Roedd y wobr hon yn un o bump ar hugain a gafodd eu dosbarthu trwy gydol blwyddyn pen-blwydd yr elusen yn 25ain i ddathlu cyflawniadau a chefnogaeth eithriadol y rhai sy’n ymwneud â Whizz-Kidz.

Dechreuodd Aaron ddod i Whizz-Kidz yn 2011.  Roedd arno eisiau cyfarfod â phobl newydd a chael profiadau newydd felly fe ymunodd â Chlwb Llysgenhadon lleol Whizz-Kidz ym Mangor.  Mae Aaron wedi symud ymlaen i fod yn Arweinydd Ifanc i Whizz-Kidz, gan gynnwys cymryd rôl mewn arwain gweithgareddau yn ei glwb, fel paratoi a datblygu gweithgareddau cwis ar gyfer y grŵp, gweithio gyda staff i gynllunio a chymryd yr awennau wrth redeg cyfarfodydd min nos yng Nghlwb Coffi Caernarfon gan gefnogi pobl ifainc eraill sy’n mynychu.

Yn 25 oed, mae Aaron bellach yn edrych ymlaen at fod yn wirfoddolwr Whizz-Kidz.  Bydd yn cefnogi pobl ifainc newydd i’w galluogi i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd gan Whizz-Kidz i’w cynnig gan gynnwys Hyfforddiant Medrau Cadair Olwyn, Gwersylloedd a Lleoliadau Gwaith.

Noddir Gwobr Cyflawniad Eithriadol Pen-blwydd Whizz-Kidz yn 25ain gan y ddyngarwraig o Putney, Charlotte Grobien OBE.  Charlotte yw Sylfaenydd ‘Give it Away’, cwmni sy’n ymgymryd â datblygu eiddo ac sy’n rhoi yr elw i elusen.  Dywedodd, “Mae mor wefreiddiol gweld pobl ifainc anabl yn ymgymryd â phrosiectau i helpu ei gilydd ac mae Aaron wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol yn ei ardal leol nid yn unig iddo ef ei hun wrth ymuno â Chlwb Llysgenhadon Bangor ond trwy ymgymryd â rôl ragweithiol o’i redeg.’
‘Get on Board Campaign Launches at the Young Wales Conference 
On 12th March, Whizz-Kidz attended the Young Wales Conference and held a stand at the marketplace telling conference attendees about what we do, and most importantly launches the Wales element of our national ‘Get on Board’ campaign.

We had our own Wales pledge board asking partners to identify issues that young disabled face with public transport and where possible to pledge how they support the young people they work with.

This will be the focus for our Cardiff and Swansea Ambassador Clubs this year and we will share our findings with Welsh Government and other partners later in 2016.
‘Get on Board Campaign Launches at the Young Wales Conference 
Lansiadau Ymgyrch ‘Get on Board’ yng Nghynhadledd Cymru Ifanc
Ar 12fed Mawrth aeth Whizz-Kidz i Gynhadledd Cymru Ifanc gan gynnal stondin yn y farchnad a dweud wrth y rhai a ddaeth i’r gynhadledd beth rydyn ni’n wneud ac, yn bwysicaf oll, lansio’r elfen Gymreig o’n hymgyrch genedlaethol ‘Get on Board’.  Roedd gennym ni ein bwrdd addewid Cymru ein hunain yn gofyn i bartneriaid nodi problemau y mae pobl anabl ifainc yn eu hwynebu â chludiant cyhoeddus a, ble mae’n bosibl, rhoi addewid ynghylch y ffordd y byddan nhw’n cefnogi’r bobl ifainc y maen nhw’n gweithio gyda nhw.  Dyma y byddwn ni’n canolbwyntio arno yn ein Clybiau Llysgenhadon Caerdydd ac Abertawe eleni a byddwn ni’n rhannu ein darganfyddiadau â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn hwyrach yn 2016.
GET INVOLVED 
Whizz Kidz are planning lots of activities across Wales this year, for young people aged 14 -25 years, and we would love to get more young people involved. To become involved, the young people need to live, or attend school in Wales, be aged 14-25, and be either a full or part – time wheelchair user.

Here is what we are doing in your area:

Ambassador Clubs 
Clubs are running throughout the years in Bangor, Wrexham, Llandudno, Swansea, Cardiff & Powys. Ambassador clubs are where young people come to meet other, have fun and learn new skills. In the past year we have done a lot of cooking (and eating!) as well as having spoken word workshops, samba drumming, attended Festival No 6, cinema trips, Sailing workshops, and BBQs.

Coffi Clwb
In North Wales we hold a bi monthly Coffi Clwbs, these  are evening sessions that are for young people aged 18-25 , to meet together in the evening for a chat and chill. This is to try to encourage young people to meet independently of the project and get used to being out in the evening with friends.

Wheelchair Skills Training
This will be taking place across Wales throughout the year. If you have young people who would be interested in coming along, then let us know or alternatively if you would like  to host a scheme in your organisation, all the we ask is that you bring together at least 5 young people who match the age range, and then we will supply the training for free.

To book onto any of the above events or to get more information, please contact:
South Wales – Arron Ring; a.ring@whizz-kidz.org.uk  / 07760 368 424
North Wales – Zarah Ross; z.ross@whizz-kidz.org.uk / 07775 323733
CYMRYD RHAN
Mae Whizz-Kidz wrthi’n cynllunio llawer o weithgareddau ledled Cymru y flwyddyn hon ar gyfer pobl ifainc 14-25 oed a buasen ni wrth ein boddau yn cael rhagor o bobl ifainc i gymryd rhan.  Er mwyn dod yn rhan o hyn dylai’r bobl ifainc fod yn byw yn Nghymru neu fynychu ysgol yma, fod 14-25 oed ac un ai bod yn ddefnyddiwr cadair olwyn llawn amser neu ran-amser.
Dyma beth rydyn ni’n wneud yn eich ardal chi:

Clybiau Llysgenhadon
Mae clybiau yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn ym Mangor, Wrecsam, Llandudno, Abertawe, Caerdydd a Phowys.  Clybiau Llysgenhadon yw’r mannau ble mae pobl ifainc yn dod i gyfarfod â phobl ifainc eraill, cael hwyl a dysgu medrau newydd.  O fewn y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gwneud llawer o goginio (a bwyta!) yn ogystal â chael gweithdai’r gair llafar, drymio samba, mynd i Ŵyl Rhif 6, teithiau i’r sinema, gweithdai hwylio a barbeciwiau.

Clwb Coffi
Yng Ngogledd Cymru rydyn ni’n cynnal Clybiau Coffi ddwywaith y mis; mae’r rhain yn sesiynau min nos ar gyfer pobl ifainc 18-25 oed i gyfarfod â’i gilydd fin nos am sgwrs ac ymlacio.  Mae hyn er mwyn annog pobl ifainc i gyfarfod yn annibynnol ar y prosiect a dod i’r arfer o fod allan fin nos gyda’u ffrindiau.

Hyfforddiant Medrau Cadair Olwyn
Bydd hyn yn digwydd ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn.  Os oes gennych chi bobl ifainc fyddai â diddordeb mewn dod, yna gadewch i ni wybod neu, fel dewis arall, os hoffech chi gynnal cynllun yn eich mudiad, yr unig beth rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod yn dod ag o leiaf pum person ifanc sy’n cyd-fynd â’r amrediad oedran ac yna fe fyddwn ni’n rhoi’r hyfforddiant am ddim.


I neilltuo lle ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau uchod neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
De Cymru – Arron Ring: a.ring@whizz-kidz.org.uk  / 07760 368 424
Gogledd Cymru – Zarah Ross: z.ross@whizz-kidz.org.uk / 07775 323733

No comments: